EISTEDDFOD URDD GOBAITH CYMRU MÔN 2004
DATGANIAD I’R WASG

Bechgyn yn beicio er mwyn Eisteddfod yr Urdd

Mae yna lai na chwe wythnos i fynd bellach tan i Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru gael ei chynnal ar Faes y Primin ym Mona, a bron bob dydd mae yna rhywun yn gwneud rhywbeth i godi arian tuag at yr Eisteddfod. Ond go brin fod un rhywun wedi teithio ymhellach na’r bechgyn o Fryngwran wnaeth reidio beic o’r ‘Marble Arch’ yn Llundain i’r ‘Marble Arch’ yng Nghaergybi.

Arweinydd y daith oedd Gethin Edwards o Fryngwran (rhif ffôn cyswllt: 07775 772712) a chafodd y bechgyn gefnogaeth Mr Alan Jones, Siop Feiciau Menai, a roes fenthyg fan a thri beic wrth gefn iddyn nhw.

Roedd aelodau o’r Urdd yn disgwyl y bechgyn adref nos Wener wrth y ‘Marble Arch’ yng Nghaergybi er mwyn datgan eu gwerthfawrogiad, ac yno hefyd yn eu croesawu roedd Eurig Wyn ASE.

Roedd y bechgyn wedi llwyddo i godi dros £1,000 tuag at yr Eisteddfod!

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Bethan Wyn Jones ar 01248 723510 neu 07713 862792

 

 

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Môn 2004