EISTEDDFOD URDD GOBAITH CYMRU MÔN 2004
DATGANIAD I’R WASG

Hogia’r Ddwylan yn cefnogi’r Eisteddfod

Chwe wythnos sydd yna nes y bydd Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Môn 2004 yn cychwyn ar gae y Primin ym Mona, ac mae’r bwrlwm yn cynyddu bob dydd.

Yn ystod y misoedd a aeth heibio mae sawl côr a pharti wedi rhoi’n hael iawn tuag at goffrau’r Eisteddfod a’r diweddaraf i wneud hynny ydi Hogia’r Ddwylan. Oherwydd eu prysurdeb yn ystod y misoedd diwethaf, doedd Hogia’r Ddwylan ddim wedi llwyddo i gynnal cyngerdd tuag at yr Eisteddfod, ond roedden nhw’n awyddus iawn i wneud rhywbeth i helpu ieuenctid Cymru. Mae nhw wedi rhoi rhodd o £300 tuag at apêl ariannol yr Eisteddfod.

Arweinydd Hogia’r Ddwylan yw Ilyd Ann Jones, y Cadeirydd yw Alan Jones, Is-gadeirydd Emlyn Thomas a’r ysgrifennydd yw Arfon Thomas. Uchafbwynt y flwyddyn hyd yma i’r Hogiau oedd ennill cystadleuaeth y corau meibion yn  Gŵyl Gorawl Ryngwladol Coleraine yng Ngogledd Iwerddon ar 20fed Mawrth eleni. Buont hefyd yn cadw cyngerdd yn y Rhyl ar noson Gŵyl Ddewi, ac mae cyngherddau i ddod yn Llanelian ar Nos Sul, 9fed Fai ac yng nghapel Llanrhuddlad ar 15fed Mai. Mae nhw hefyd yn edrych ymlaen at gystadlu yng Ngŵyl Aberteifi ar 3ydd Gorffennaf.

Wrth ddiolch i Hogiau’r Ddwylan am eu cyfraniad meddai Islwyn Humphreys, Trysorydd Eisteddfod yr Urdd Môn 2004,

“Rydan ni’n ddiolchgar iawn am bob cymorth ariannol sydd yn dod â ni yn nes at y nod ariannol a osodwyd i ni yma ym Môn yn 2004, ac mae cyfraniad Hogia’r Ddwylan yn werthfawr dros ben.”

Ychwanegodd Derek Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith,

“Mae haelioni sawl côr a pharti yn ystod y misoedd diwethaf yma wedi bod yn galonogol iawn, ac yn arwydd o’r croeso twymgalon sy na ym Môn i’r genedl gyfan ddechrau mis Mehefin.”

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Bethan Wyn Jones ar 01248 723510

 

 

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Môn 2004