Annwyl Gyfaill,  

Mae’r ffeiliau canlynol Tenantiaid y Maes 2004.pdf, Ffurflen A.pdf, Ffurflen B.pdf, Ffurflen C.pdf, Asesiad Risg Unedwyr.pdf a Llythyr Pecyn Gwybodaeth 2004.pdf yn rhoi gwybodaeth am hurio stondin ar faes yr Eisteddfod eleni ar Faes Sioe Amaethyddol Môn, Mona rhwng 31 Mai – 5 Mehefin 2004.

 Mae’r ffeiliau wedi eu crëi gan ddefnyddio ‘Adobe Acrobat’ felly mae angen ‘Adobe Acrobat Reader’ ar ych cyfrifiadur er mwyn darllen y ffeiliau uchod.

 Dylech edrych yn gyntaf ar ffeil Tenantiaid y Maes 2004.pdf sydd yn rhoi gwybodaeth am yr amodau a rheolau yngln â hurio stondin neu safle rhydd i’ch stondin symudol eich hyn.  Gellir llenwi y ffurflenni A, B a C ar eich cyfrifiadur eich hun gan ddefnyddio yr allwedd ‘tab’ i symud rhwng y gwahanol ardaloedd o’r ffurflen cyn argraffi y ffurflen ar eich argraffydd lleol.  Yna arwyddech y ffurflen a phostiwch yn ôl i Swyddfa’r Urdd yng Nghaerdydd gyda’r blaendal priodol.  Dyle’r nodi bod ffurflen C yn rhoi manylion am gyflenwad trydan, ac felly os ydych am archebu trydan rhaid trosglwyddo y cyfansymiau o ffurflen C i’r lle priodol a’r ffurflen A

 Talu 

Tynnir eich sylw at y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, sef Mawrth 31 2004, a bod rhaid talu’n llawn am yr uned/safle cyn 23 Ebrill 2004.  Bydd ceisiadau sydd yn cael eu derbyn a’r oll 31 Mawrth yn gorfod talu dirwy o £100.00 am gais hwyr. 

NI DDANFONIR UNRHYW DOCYNNAU ATOCH, NAC YCHWAITH EICH LLEOLI AR GYNLLUN Y MAES OND FYDD Y TÂL LLAWN WEDI EI DDERBYN

 Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â ni.

 Yn gywir,

 Ian D Carter
Rheolwr Busnes a Maes
E bost:-  ianc@urdd.org

 

 

 

 

 

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Môn 2004