|
Croeso i safle we newydd
Aelodau Uwchradd
Wyt ti isio bod yn rhan o fudiad ieuenctid mwya'
Ewrop?
Wrth fod yn aelod o Urdd Gobaith Cymru cei gyfle i:
fynd ar Dripiau i barciau a chanolfannau lleol ynghyd â pharciau cenedlaethol a
sioeau cerdd e.e. Oakwood, Alton Towers, gemau pêl-droed rhyngwladol
gystadlu mewn dros 180 o gystadlaethau llwyfan a 290 o
gystadlaethau eraill fel celf a chrefft neu wyddoniaeth yn Eisteddfod yr Urdd
gystadlu yn Chwaraeon yr Urdd o gala nofio i draws gwlad ac o bêl-droed a
rygbi i bêl-rwyd a hoci
aros neu 'swogio' yng Ngwersylloedd yr Urdd (Llangrannog, Glan-llyn neu Bentre
Ifan) a mwynhau sgïo, gwibgartio,
hwylio, canwio, merlota
a llawer mwy!
wneud ffrindiau newydd yn Adran/Aelwyd yr Urdd a chymryd rhan mewn pob math o
weithgareddau cyffrous
fynd ar Deithiau Tramor i Barcelona, Iwerddon, Eurodisney i enwi ond ychydig!
Wel
Os wyt ti isio joio byw.....
.........Ymuna gyda'r Urdd
|