Dal i Guro yng Nglan-llyn

            View Bilingual
 

Prynhawn dydd Sadwrn 8fed Gorffennaf roedd gwersyllwyr yn Glan-llyn yn cael cymryd rhan mewn ymgyrch arbennig iawn! Roeddent yn curo drwm dros anghyfiawnder a thynnu sylw at achosion tlodi dros y byd.  Cawsom gwmni y Parchedig Dafydd Roberts ac fe fu'n rhannu ei hanes gyda ni yn ymweld ag Affrica, ac yn cadarnhau bod plant a phobl ifanc yn gwneud gwahaniaeth, nid yn unig wrth godi arian ond hefyd wrth godi ymwybyddiaeth fel bo plant yn cael gofal iechyd, dwr glan ac addysg dros y byd.