Neges Ewyllys Da 2000
A ninnau wedi cyrraedd mileniwm newydd, mae’n naturiol
inni edrych yn ôl ar yr hyn a gyflawnodd dyn yn ystod y can mlynedd diwethaf.
Canrif o ryfela oedd hi, meddai’r haneswyr,
ond canrif o gydweithio a chwalu’r hen furiau rhwng y gwledydd, meddwn ni. Ni
welwyd cymaint o gydweithio rhwng gwledydd erioed o’r blaen. Dyma ganrif
sefydlu’r Cenhedloedd Unedig, Cymorth Cristnogol, Oxfam a Medecins Sans
Frontières a thwf y Groes Goch. Bellach, pan fo argyfwng naturiol fel daeargryn
neu lifogydd yn taro gwlad, y mae pawb yn barod i helpu er gwaethaf y ffraeo a
fu yn y gorffennol, a daw’r cymorth hwnnw o fewn ychydig oriau.
’Rydym ni, blant a phobl ifainc y byd, yn
chwarae rhan amlwg yn hyn trwy godi arian at wahanol achosion da. A NI, yn y
ganrif hon, a fydd yn camu ymlaen gyda’r gwaith. Gadewch i ni, bobl ifainc y byd,
adeiladu ar y cydweithio a fu, a dysgu oddi wrth gamgymeriadau y gorffennol, er
mwyn creu byd o heddwch.
 |
 |
 |
Disgyblion Ysgol Glan Clwyd Llanelwy yn
cyflwyno Neges Ewyllys Da 2000 |
GWAITH DYNGAROL
DIGWYDDIADAU RHANBARTHOL
Ceredigion - Cynhaliwyd wythnos gwaith dyngarol yn Theatr
Felin Fach yn cyfuno Sul y Sylwi, Sul yr Urdd ac Wythnos Waith Ieuenctid.
Gwent - Cynhaliwyd cyfarfodydd Sul yr Urdd yn Y Fenni ac yn Caerffili gwnaed
casgliad o £400.
Staff - Bu Gary Lewis, Swyddog Chwaraeon Cenedlaethol yr Urdd yn rhedeg marathon
Efrog Newydd ar gyfer MENCAP.
Staff - Bu Eurfyl Lewis, Swyddog Datblygu Penfro yn beicio ar lannau'r Nile ar
gyfer MENCAP.
Môn - Noson garolau - casglwyd £426 i gronfa Ronald Macdonald House, Ysbyty
Alderhay.
Ynys Môn - Dawns Ysgubor Tafarn y Rhos - NSPCC.
Dinbych - Aelwyd Bro Gwerfyl - rhai wedi mynychu cyrsiau Childline.
Dinbych - Bwrdd Aelwydydd wedi casglu £63 i Childline ac NSPCC gyda raffl.
Eryri - Ysgol y Gelli, Caernarfon £25.
Conwy - Adran Llannefydd - Disgo.
Conwy - Ysgol Towyn - Gyrfa Chwilod a Raffl.
GWAITH DYNGAROL ARALL
Mae'r Urdd yn gweithio gyda llawer o fudiadau dyngarol eraill i roi cymorth i
bobl ifanc mewn gwledydd eraill.
Sefydlwyd Panel Dyngarol i drafod sut y gall aelodau'r Urdd gynnig cymorth neu
hybu ymgyrch arbennig drwy gefnogi elusennau neu brosiectau cenedlaethol a
rhyngwladol.
Sul yr Urdd - anfonir
gwasanaeth arbennig pob blwyddyn i'r canghennau er mwyn i bobl ifanc Cymru drefnu
gwasanaeth arbennig yn y gangen, yr ysgol, y Capel neu'r Eglwys. Neilltuwyd Dydd Sul, 18
Tachwedd ar gyfer Sul yr Urdd eleni yn 2000.
Gwaith Gwirfoddol Rhyngwladol. Mae cyfleoedd arbennig iawn ar gael i'r Urddaholics! fynd i
wneud gwaith gwirfoddol ar brosiectau tramor e.e gwaith mewn cartrefi a gwersylloedd haf
gyda phlant yn Romania neu Israel, gwaith amgylcheddol neu archeolegol yn yr Eidal neu
Foroco. I dderbyn mwy o wybodaeth cysylltwch a UNA-IYS yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd.
Nôl
|