Neges Ewyllys Da 2002
Eleni mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd
Gobaith Cymru yn 80 oed ac ers 1922 mae’r neges wedi bod yn ysgogiad ac yn
ysbrydoliaeth i weithgarwch dyngarol a rhyngwladol yr Urdd. Anfonwyd y neges
gyntaf gan Y Parch Gwilym Davies o Gwm Rhymni. Roedd yn Heddychwr mawr ac yn
flaenllaw yn sefydlu Undeb Cymreig y Cenhedloedd Unedig ac yn ddiweddarach
UNESCO. Credai mewn dod â phlant y cenhedloedd ynghyd a penderfynodd Syr Ifan y
dylai'r Urdd ymuno gyda'r fenter o gyhoeddi'r neges er mwyn dileu'r anwybodaeth
a'r rhagfarnau oedd yn bodoli rhwng cenhedloedd y byd. Roedd y neges cyntaf, a
anfonwyd mewn morse code, yn gweddïo ar i Dduw fendithio ymdrechion a gwaith
dynion da dros y byd a dod a rhyfela i ben. Cafwyd un ymateb gan warchodwr Twr
Eiffel Paris. Darlledwyd y neges am y tro cyntaf ar y BBC World Service yn 1924
ac erbyn heddiw mae’r neges yn ymddangos mewn 12 iaith ar y we ac yn cyrraedd
pedwar ban byd, ac mae’r ymatebion yn cynyddu pob blwyddyn.
Yn y 50au rhoddwyd sêl bendith
i’r neges a chymerodd yr Urdd y cyfrifoldeb dros gyhoeddi Neges
Heddwch ac Ewyllys Da yn flynyddol ar ddydd Ewyllys Da sef Mai 18, sef
dyddiad y gynhadledd heddwch gyntaf yn yr Hâg yn 1899.
Eleni mae’r neges yn cyd-fynd â phrosiect
arbennig iawn mewn cydweithrediad â Cymorth Cristnogol i godi ymwybyddiaeth
plant a phobl ifanc Cymru am fywydau plant a phobl ifanc yn Calcutta yr India.
Mae’r cynllun yn ceisio annog Dinasyddiaeth Dda ymysg aelodau’r Urdd drwy
weithgareddau amrywiol a fydd yn addysgu am ddiwylliant, traddodiadau, credoau a
phroblemau byw ar draws y byd, ehangu gorwelion a dod a phobl ifanc y
cenhedloedd yn nes at ei gilydd.
Nôl
|