Neges Ewyllys Da 2002

Cyflwyno Neges Heddwch ac Ewyllys Da
Urdd Gobaith Cymru o’r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel

Braint o'r mwyaf oedd cael cyflwyno Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru o’r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel, a’r arfer hwn eleni yn dathlu 80 mlynedd ers anfon y neges cyntaf nol yn 1922. Mewn dinas hardd a'r tywydd bendigedig cawsom gyfle i fwynhau cwmni a dealltwriaeth o waith yr Aelodau Seneddol a'n cynrychiolwyr o Gymru wrth eu gwaith yn Ewrop.

Roedd ein rhaglen am y ddeuddydd yn llawn a cychwynwyd ar ein taith fore Llun yn eiddgar iawn i gael gweld dinas newydd a Chymry blaenllaw yn ein cynrychioli yno. Bore dydd Mawrth cafwyd derbyniad yn y Senedd a chyflwynodd Caryl Jones, Gwenllian Sion, Ela Cernyw a Sioned Roberts, oll yn ddisgyblion o Ysgol Dyffryn Conwy Llanrwst, Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd i Eurig Wyn ASE, Jill Evans ASE, Desmond Clifford, Y Cynulliad ym Mrwsel, Nia Lewis, Canolfan Ewropeaidd Cymru a Haf Elgar, Ymchwilydd Jill Evans. Cyflwynwyd i bawb boster lliwgar, mewn ffram, o'r neges eleni ac yna cafwyd ymweld a'r Senedd yng nghwmni Jill Evans.

Yn y prynhawn ymwelwyd a'r Ganolfan Ewropeaidd Gymreig yng nghwmni Nia Lewis a Peredur John, cafwyd trafodaethau brwd iawn ynglyn a'r ewro a'r Undeb Ewropeaidd a rol Cymru o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Roedd y disgyblion yn frwdfrydig iawn yn eu trafodaethau. Dywed Peredur John fod y grwp ifanc "wedi cyfranu mewn ffordd aeddfed a rhaid i mi eu llongyfarch ar eu parodrwydd i fynegi barn ar faterion ma llawer o bobl yn dewis osgoi."

Ymlaen wedyn i dderbyniad gyda'r Comisiynydd Reding. Darllenwyd y neges i'r Comisiynydd ac fe fu iddi hi longyfarch y disgyblion ar eu gwaith a phwysleisio'r pwysigrwydd o anfon neges heddwch yr Urdd yn flynyddol. Pwysleisiodd hefyd y pwysigrwydd o ddysgu am ddiwylliant ein gilydd o fewn Ewrop er mwyn cryfhau cyfeillgarwch rhwng y Cenhedloedd.

Bu ein hymweliad dydd Mercher a Chanolfan Ddarlledu Rhyngwladol y BBC yng nghwmni Iolo ap Dafydd - fe soniodd am ei waith fel Gohebydd Newyddion yn Ewrop. Recordiwyd y neges yn y ganolfan i'w darlledu adre yng Nghymru a bu i'r disgyblion wneud eu gwaith trwy gydol yr ymweliad yn raenus tu hwnt a dod a chlod ac anrhydedd nid yn unig i Ysgol Dyffryn Conwy ond i'r Urdd a Chymorth Cristnogol ac yn wir i Gymru.

Isod gwelir ymateb y sawl fu'n ymweld a Brwsel.

Waw! dyna'r gair perfaith i ddisgrifo'r profiad bythgofiadwy o gyflwyno Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2002 yn y Senedd Ewropeaidd ac i'r Comisiynydd Reding, roedd hwn yn brofiad anhygoel!
Caryl Wyn Jones

Roedd y profiad o fynd i Frwsel mor wych, a mae'n wir anrhydedd gen i fod wedi cael fy newis i ddarllen y neges holl bwysig yma a dangos i'r byd bod Cymru yn poeni ac yn helpu gwledydd eraill.
Gwenllian Sion

Mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn bwysig er mwyn codi ymwybyddiaeth pobl am anghenion pobl eraill llai ffodus ar draws y gwledydd a lledaenu neges o obaith a heddwch led led y byd. Mae'n bwysig ein bod yn rhannu ein dyheadau i gyd-fyw, a chyd-dynnu mewn oes mor dreisgar a rhyfelgar.
Ela Cernyw

Roedd cael mynd ar y daith hon yn brofiad ac yn fwy na dim yn fraint ac anrhydedd i mi. Roedd cael fy newis i gynrychioli fy Ysgol, yr Urdd, Cymorth Cristnogol a Chymru yn golygu llawer i mi.
Sioned Roberts

Nôl