Gwasanaeth
Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2002
Y Parchedig Dr. Alun Tudur, Caerdydd

Gweddi agoriadol:

Addolwn di o Dduw,
oherwydd mai ti yw y crëwr mawr.
Moliannwn di o Dduw,
oherwydd mai ti yw cynhaliwr popeth sydd.
Clodforwn di o Dduw,
oherwydd i ti ddangos dy gariad yn Iesu Grist.

Helpa ni, trwy yr Ysbryd Glân, yn ystod y gwasanaeth hwn, i lawenhau ynot ti ac i feddwl am dy gariad. Wrth inni feddwl am dy gariad di, dangos i ni sut y gallwn garu ein gilydd a’n cyd-ddynion yn well. Boed i’th gariad di, ennyn cariad ynom ni. Gofynnwn hyn yn enw Iesu Grist. Amen.


Emyn:
Caneuon Ffydd, 158. "O, O, O, mor dda yw ein Duw."

Darllen: Luc pennod 19, adnodau 1-10. Ceir fersiwn symlach o’r stori hefyd yn y Beiblau i blant. (Neu gellir defnyddio’r ymgom - sydd ar y diwedd - sy’n seiliedig ar Luc 19.)

Arweinydd 1

‘Roedd Sacheus yn ddyn hunanol a barus oedd yn troi’r dwr i’w felin ei hun. Nid oedd yn meddwl ddwywaith cyn twyllo pobl eraill er mwyn cael elw mawr yn ei boced. Mae’n byd ni yn aml yn farus a hunanol. Y mae’r tlawd yn mynd yn dlotach a’r cyfoethog yn gyfoethocach. Yn aml y mae’r gwledydd cyfoethog yn manteisio ar wendid y tlawd. Dywedir wrthym bod tri pherson cyfoethocaf y byd bellach yn rheoli mwy o gyfoeth na’r holl 600 miliwn o bobl sy’n byw yn y gwledydd lleiaf datblygedig.

Arweinydd 2

Dysgodd Iesu i Sacheus y dylai fod yn onest ac yn deg gan droi cefn ar ei hen ffordd hunanol. Rhaid i ninnau fel dynoliaeth gefnu ar ein hunanoldeb a cheisio rhannu adnoddau’r byd yn fwy teg. Y mae digon o adnoddau i bawb ond nid oes digon o ewyllys da i’w rannu.

Cerdd:

Kit-Kat a Polo,

Maltesers a Rolo,

A dim – dim byd i ti;
‘Sgodyn a sglodion

A phob math o greision
Ond dyrnaid o reis i ti,
 
Ie, dyrnaid o reis i ti.

Teledu, compiwtar
A mobiles bach lliwgar,
A dim – dim byd i ti.
Camera a fideo,
 
Allweddell a phiano,
Ond dim – fawr o ddim i ti,
Ie, dim – fawr o ddim i ti.

Côt ffwr a pherlau,
Modrwyau a gemau,
A dim – dim byd i ti,
Esgidiau o leder,
Jeans glas a siwmper,

Ond carpiau llwm i ti,
Ie, carpiau llwm i ti.

Mercedes a Roller,
Lotus a Rover,
A dim – dim byd i ti,
Jet, trên a modur
I’n cludo mewn cysur,

Ond teithio trwy’r llwch i ti,
Ie, teithio trwy’r llwch i ti

(O Cyhoeddi’r Gair 2, Cyhoeddiadau’r Gair)

Emyn: Caneuon Ffydd 868, "Gweddi Sant Ffransis".

Arweinydd 1

Ar y dechrau nid oedd gan Sacheus unrhyw barch tuag at ei gyd-ddynion. Credai ei fod dipyn yn well na hwy ond dangosodd Iesu bod yn rhaid iddo barchu ei gyd-ddynion gan eu trin yn gyfiawn a theg.

Arweinydd 2

Wedi iddo gredu, fe rannodd ei arian gyda’r tlodion a dywedodd yr Iesu, "Heddiw, daeth iachawdwriaeth i’r ty hwn." Mae pobl y byd - a ninnau yn eu plith - angen dysgu parchu ein gilydd a’n gwahanol ddiwylliannau fel ein bod yn gallu byw yn heddychlon gyda’n gilydd. Mae hyn yn eithriadol o bwysig yn sgîl y drychineb fawr yn Efrog Newydd ar yr 11eg o Fedi.

Cerdd:

Mae saith lliw gan yr Enfys,

Sy’n werth eu gweld i gyd,
Yn batrwm o ryfeddod,

Fel pont uwchben y byd;
Coch, melyn, glas, fioled,
Indigo, oren, gwyrdd,
Ac o’u cymysgu’n ddethol,
Ceir lliwiau eraill fyrdd.

Mewn byd o amryw liwiau
-
Gwahanol yw pob gwlad,

Ond dylent oll gydnabod
 -
Fod Duw, i bawb, yn Dad;
 
Ac os gwnânt weithio’r patrwm
 
A luniwyd ganddo Ef,
 
Daw’r bobloedd yn un teulu
 
A’r byd fel teyrnas nef.


Rym ninnau megis lliwiau,

A’n gwaith yw harddu’r byd

Drwy ddilyn cyngor Iesu

A byw yn well o hyd,

A chodi mewn cymdeithas

Bont cyfeillgarwch Duw,

I bawb ddod at ei gilydd

Mewn ymdrech i gyd-fyw.

(Allan o Cyhoeddi’r Gair 2 – Cyhoeddiadau’r Gair)

Arweinydd 1

Y mae Neges Ewyllys da yr Urdd a luniwyd eleni gan Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, yn ein hannog i geisio byd teg a chyfiawn lle y mae pobl yn parchu ei gilydd.

Darllen Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2002

Gweddi:

O Dduw ein Tad, dysg ni i ddilyn yr Iesu mewn meddwl, gair a gweithred ac i ymddiried ynddo fel Gwaredwr.

Gweddïwn am ddisodli’r pethau hynny sy’n andwyo dynoliaeth, gan ddinistrio bywydau cymaint; hunanoldeb, twyll, anghyfiawnder, casineb, rhagfarn, hiliaeth a thlodi.

Gweddïwn y bydd rhinweddau a daioni, cyfiawnder a chariad, onestrwydd a chyd-ddealltwriaeth yn ennill y dydd. Gweddnewidia ein byd a defnyddia ninnau i wneud dy waith. Boed i Neges Ewyllys Da yr Urdd fod yn gyfrwng eto, eleni, i hybu tegwch a chyd-ddealltwriaeth. Er mwyn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Emyn: Caneuon Ffydd, 372, "Dwylo ffeind oedd dwylo."

Ymgom Sacheus – Seiliedig ar Luc 19.

Sacheus ydw i. Fy ngwaith i yw casglu trethi yn Jericho. Casglu trethi gan yr Iddewon i’w roi i’r Rhufeiniaid sydd wedi ein concro. Dio ddim yn waith poblogaidd iawn. I ddweud y gwir mae pawb yn fy nghasáu i ac yn fy ngalw yn bob math o enwau. Fedra i ddim eu hailadrodd nhw yn fama. Mae nhw’n deud bod gin i ddwylo blewog a mod i’n cymryd gormod o arian ganddyn nhw er mwyn llenwi fy mhocedi fy hun. Wel, felly mae hi, mae pawb eisiau byw ac mae gen i fy miliau i’w talu fel pawb arall. Ac os medra i wneud ceiniog neu ddwy yn fwy – wel, dyna fo - beth sydd o’i le mewn dipyn o elw. Felly y mae hi.

Neu, felly oedd hi, oherwydd y diwrnod o’r blaen fe ddigwyddodd peth rhyfedd iawn. Clywais bod dyn o’r enw Iesu Grist yn dod i Jericho. Ro’n i wedi clywed amdano o’r blaen ac yn awyddus i’w weld. Pan es i allan i’r stryd ‘roedd y lle o dan ei sang. Pobl ym mhob man. Nid fi yw’r talaf o ddynion Jericho. I ddweud y gwir mae rhai o’r plant yn dalach na fi. Felly, beth wnes i ond dringo sycamorwydden. Wedi hir a hwyr daeth Iesu Grist heibio a gallwn weld popeth o’r goeden. Ond wyddoch chi beth? Fe arhosodd wrth waelod y goeden, edrychodd i fyny a galwodd arnaf fi? Oh! c’wilydd, ro’n i’n teimlo mor embarassed. Do ni ddim yn meddwl fod neb wedi fy ngweld yn y goeden. Tynnodd Iesu sylw pawb ataf. Roeddwn am i’r ddaear fy llyncu yn y fan a’r lle. Prif gasglwr trethi Jericho, yn ei ddillad gorau yn cael ei weld i fyny mewn coeden. Oh! C’wilydd.

Beth bynnag, galwodd Iesu gan ddweud, "Sacheus, tyrd i lawr ar dy union; y mae’n rhaid i mi aros yn dy dy di heddiw." Neidiais i lawr, ac fe ddaeth acw am baned a thamed i’w fwyta. Nes i erioed gyfarfod neb tebyg iddo fo o’r blaen.

Y diwrnod hwnnw newidiwyd fy mywyd yn llwyr. Credais yn Iesu Grist ac fe ddangosodd i mi pa mor anonest a hunanol y gallwn fod. Yn syth wedi hynny, mi wnes i rannu fy arian gyda’r bobl y gwnes i eu twyllo. Y peth gorau wnes i erioed oedd bod mor dwp a dringo’r sycamorwydden ‘na. Allwn i ddeud bod Iesu wedi dod a fi at fy nghoed!

Nôl