Neges Ewyllys Da 2002

Eleni mae Urdd Gobaith Cymru a Cymorth Cristnogol yn cydweithio ar brosiect arbennig sy’n codi ymwybyddiaeth plant a phobl ifainc Cymru o fywydau plant a phobl ifainc yn Calcutta yn India. Drwy ymgyrch Croeso Calcutta gadewch inni uno â’n gilydd ledled y byd, beth bynnag fo’n ffydd neu’n credoau.

Gadewch inni ddysgu drwy brosiectau Cymorth Cristnogol am fywydau’r tlodion, y digartref a’r rhai sy’n dioddef trais ac anghyfiawnder.

Drwy rannu profiadau a diwylliant newydd gallwn ddatblygu parch a chariad at eraill. Wrth ddysgu am ein gilydd byddwn yn pontio ein cyfeillgarwch, yn gobeithio cau bwlch anwybodaeth ac agor drysau cyfiawnder a heddwch.

Mae Cymorth Cristnogol yn cwestiynu achosion tlodi ac yn credu bod angen newid er mwyn creu byd tecach a sicrhau nad yw pobl dlawd ddim yn gorfod aros yn anghenus. Gallwn ni i gyd fod yn rhan o’r newid hwn, oherwydd wrth uno gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.

Nôl