Cyhoeddi'r neges yn Eisteddfod Llangollen
Does dim rhaid i chi fynd rownd y byd i weld a chlywed diwylliant a
cherddoriaeth gwledydd eraill - wir i chi bob mis Gorffennaf mae'r byd yn dod i
Gymru! Eleni yn Eisteddfod Llangollen bu i filoedd o blant ysgolion Cymru
fwynhau cerddoriaeth, dawns a gwisgoedd lliwgar y byd i gyd. Dydd Mawrth yr
Eisteddfod yw diwrnod y plant - diwrnod y pasiant, cyhoeddi Neges Heddwch ac
Ewyllys Da a gorymdaith drwy'r dref. Diwrnod bendigedig i rannu diwylliant
Cymru gyda gwledydd eraill - dyma rai o'r gwledydd fu'n ymweld eleni.