Apeliwn ni, blant a phobl
ifanc Cymru, ar ran plant a phobl ifanc y byd, ar i arweinyddion y cenhedloedd
wrando ar ein neges.
Yn ein hoes fodern heddiw,
gwelwn fod trais a rhyfel, rhagfarn a hiliaeth yn cynyddu o ddydd i ddydd.
Teimlwn mai diffyg cyd-fyw yw gwraidd llawer o’r problemau hyn.
Sail cyd-fyw llwyddiannus
yw cyfathrebu a siarad. Felly ymbiliwn ar arweinyddion y byd i wrando a thrafod
cyn gweithredu.
Gadewch inni gofio a dysgu
am ein cymuned leol a chymuned y byd drwy barchu pobl eraill, eu traddodiadau
a’u diwylliant, a cheisio dileu agweddau negyddol. Gadewch inni ddechrau wrth
ddysgu byw ochr yn ochr a’n gilydd.
Mae pob person yn wahanol,
ond mae lle i bawb yn y byd. Credwn fod gan bob un ohonom ran i’w chwarae er
mwyn sicrhau heddwch.
Gwrandewch, a gweithredwch.
Gorau byw, cyd-fyw.
Nôl