Ysgol Gyfun Gwyr, Bro Gwyr, Abertawe
luniodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru eleni. Wrth i ni barhau
mewn cydweithio gyda Cymorth Cristnogol roedd Gweithgor Ieuenctid Ysgol Gyfun
Gwyr yn barod iawn i gydweithio ac fe gawsom neges hyderus a grymus iawn ganddyn
nhw. Mae'n neges amserol iawn gan ei fod wedi ei lunio yng nghysgod y rhyfel yn
Irac, ac mae'n gofyn ar i arweinwyr cenhedloedd bwyllo ac ystyried cyn
gweithredu. Nol yn 1922, pan luniodd y Parch Gwilym Davies y neges cyntaf un,
roedd o hefyd yn gofyn ar i bawb yng Nghymru, weddio dros ymdrechion dynion da
dros y byd, a dod a rhyfela i ben. Gresyn ein bod, 81 o flynyddoedd yn
ddiweddarach, yn dal i ofyn am yr un peth.
Ar y 12fed o Fai eleni aeth cynrychiolwyr
o Ysgol Gyfun Gwyr i Lundain i gyflwyno'r neges yn San Steffan. Trefnwyd taith o
amgylch y senedd i'r disgyblion gan Hywel Williams AS Plaid Cymru ac yna
gorymdeithwyd i 10 Downing Street i gyflwyno poster o'r neges, wedi ei fframio,
i swyddfa Tony Blair. Cafwyd cinio yn San Steffan cyn cyflwyno'r neges mewn
pedair iaith, i'r Aelodau Seneddol sy'n cynrychioli Cymru yn San Steffan, yn
cynnwys David Hanson, Gareth Thomas, Win Griffiths, Paul Flynn, Huw Iranca,
Hywel Williams a dau gynrychiolydd ar ran Roger Williams.
Llongyfarchiadau mawr i chi gyd!
Nôl