Arweinydd: |
Cwestiwn ydi thema ein hoedfa.
Cwestiwn i bob un ohonom. Cwestiwn i bawb. |
Gweddi:
|
Arglwydd
pob tegwch a charedigrwydd
agor ein meddyliau
trwy gyfrwng yr oedfa hon. Amen |
Lois:
|
Noswaith dda a chroeso i’n rhaglen newydd sbon, “Ydi hyn yn deg?” Yn
y rhaglen bydd Siôn a minnau Lois yn gofyn nifer o gwestiynau. Fe gewch
chi’r gwrandawyr gyfle i ateb. Dyma bedair ffaith i chi. Sut fyddwch chi’n
ymateb tybed? |
Siôn:
|
Mae Gabriel yn byw yn y Caribî. Tyfu bananas mae o a’r theulu. Mae’n gwerthu
ei gynnyrch i’r farchnad Ewropeaidd dan gytundeb arbennig. Mae cwmnïau mawr
yn yr Unol Daleithiau’n gandryll. Mae’n nhw am i’r cytundeb hwn ddirwyn i
ben. Cyn bo hir bydd rhaid i Gabriel gystadlu â’r planhigfeydd mawr yn yr UD
sydd yn gwerthu eu bananas yn rhad – am yr unig reswm bod eu gweithwyr yn
cael cyflogau isel iawn. Bydd hyn yn sicr o roi diwedd ar gynnyrch Gabriel. |
Lois:
|
Byw ar arfordir Senegal mae Koambi. Mae’n byw gyda’i fam weddw. Mae hi’n
ceisio gwneud bywoliaeth o werthu pysgod. Yn ddiweddar daeth llongau pysgota
enfawr o Ewrop i bysgota’r dyfroedd o gwmpas ei gartref. Mae rhwydau’r
llongau enfawr hyn yn rhwydo niferoedd mawr o bysgod. Os bydd hyn yn dal i
ddigwydd fydd yna ddim pysgod i’r bobl leol fel mam Koambi. A dyna fydd
diwedd ar ei busnes. |
Siôn:
|
Yn ne Bangladesh mae Conari yn byw. Ffermio gorgimychiaid mae ef a’i deulu.
Yn ystod y deng mlynedd olaf mae’r gorgimychiaid hyn wedi dod yn boblogaidd
iawn yn Ewrop ac America. Mae hyn, yn ei dro, wedi hybu’r ffermwyr lleol,
Conari a’i deulu yn eu plith, i brynu mwy o dir ar y lan i ffermio
gorgimychiaid. Ond prin iawn ydi’r elw mae ef a’i deulu, a’r ffermwyr eraill,
yn ei gael am eu cynnyrch. Dydi’r elw ddim yn ddigon i dalu’r pris am y tir
a brynwyd yn y lle cyntaf. |
Lois:
|
Tyfu india corn ar fferm ar gyrion Accra prifddinas Ghana mae Lydia. Fel
llawer o ferched eraill mae’n gweithio ddydd a nos i ofalu am ei theulu a’r
busnes. Yn y gorffennol roedd llywodraeth Ghana’n helpu ffermwyr bychain
trwy roi cymorth ariannol iddyn nhw i brynu hadau, gwrtaith ac offer i drin
y tir. Bellach mae gwahanol sefydliadau wedi rhwystro llywodraeth y wlad
rhag gwneud hyn. |
Siôn: |
Ydi hyn yn deg? Sut ydych chi’n teimlo o glywed
hyn? |
Llais 1:
|
Blin, cas, rhwystredig, chwerw. Ond oes gynno ni
hawl fel Cristnogion i fod yn flin a chas? |
Llais 2:
|
Unwaith, pan aeth Iesu i mewn i’r deml yn
Jerwsalem gwylltiodd yn gacwn. Gwelodd y gwerthwyr a’r cyfnewidwyr arian.
Marc, yn ei efengyl sy’n dweud yr hanes. |
Llais 3: |
Darllen Marc 11 15 -17 |
Siôn:
|
Oes yna debygrwydd rhwng y stori hon o
weinidogaeth Iesu a’r amodau a weithredir ym myd masnach ym marchnad y byd
heddiw? Oni ddylai hyn ein gwylltio a’n ffyrnigo? |
Lois:
|
Cyn mynd ddim pellach gwell
fyddai i ni ofyn i Dduw am arweiniad rhag ofn i ddicter gael y gorau arnom. |
Arweinydd
Gweddïwn:
|
Arglwydd, mor hawdd ydi ffyrnigo
a gwylltio’n gacwn
o weld ein brodyr a’n chwiorydd
mewn mannau eraill o’r byd
yn cael cam.
Cael cam maen nhw a dim arall.
Tro ein dicter a’n ffyrnigrwydd, Arglwydd
a heria ni ieuenctid Cymru
i wneud gwahaniaeth.
i weithredu yn enw cyfiawnder.
Paid â gadael i ni suro a chwerwi
ond defnyddia ni
i arwain
i arloesi
ac i ddangos y ffordd ymlaen. Amen. |
Siôn: |
Beth fedrwn ni ei wneud, felly? Pa gamau
ymarferol allwn ni eu cymryd? |
Lois: |
Dyma rai o’r atebion gawsom ni wrth baratoi’r
rhaglen. |
Llais 4:
|
Dowch i ni ddechrau yn y top. Gofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol ymrwymo i
hybu Masnach Deg ymhob agwedd yng Nghymru. |
Llais 5:
|
Datblygu rhwydwaith o wirfoddolwyr i drefnu a chydlynu gweithgarwch Masnach
Deg yn eu hardaloedd mewn siopau, tai bwyta, boreau coffi, capeli ac eglwysi. |
Llais 6:
|
Datblygu perthynas rhwng cwmnïau all gyflenwi nwyddau Masnach Deg i fusnesau
a sefydliadau yng Nghymru. |
Llais 7:
|
Paratoi rhaglenni addysg i blant ysgol a cholegau i ddangos pwysigrwydd
cefnogi Masnach Deg. |
Lois:
|
Dyna fan cychwyn i ni. Dyma’r neges eleni gan blant a phobl ifanc Ynys Môn. |
|
DARLLEN NEGES
HEDDWCH AC EWYLLYS DA 2004 |
Siôn: |
Munud bach o ddistawrwydd i ofyn bendith Duw ar
y neges eleni. |
Emyn: |
866 “Anfonodd Iesu fi” (Neu emyn o ddewis) |
Llais 8:
|
Gwrandewch ar eiriau’r proffwyd Eseia pan oedd yn cerdded drwy’r farchnadfa
ac yn clywed llais yn galw. Llais Duw. |
Llais 9: |
Darllen Eseia 55 1 – 3 8 – 9 12 –
13 |
Lois:
|
Mae’r farchnadfa heddiw yn lle
cymhleth iawn, bron iawn yn ein llethu. Sut y gallwn glywed llais Duw yn ein
byd cymhleth ac astrus? |
Siôn:
|
Mae’n ein galw, fel unigolion i weithredu fel y gallwn godi safon byw y rhai
sy’n gwerthu yn y farchnad fyd eang. Mae cynnyrch Masnach Deg, lle mae
cynhyrchwyr yn cael gwell arian ar gyfer eu teuluoedd a’u cymunedau yn
weladwy ar silffoedd ein siopau erbyn hyn. |
Lois:
|
Chwiliwch am label Masnach Deg ar bethau fel bananas, te, coffi, siocled
ymhlith pethau eraill. |
Siôn:
|
Os ydych yn eu prynu’n barod perswadiwch weddill eich teulu, eich ysgol,
eich capel, eich eglwys, eich cymuned, eich gwlad i brynu nwyddau sydd wedi
eu masnachu’n deg. Hon yw her Duw i ni yn y farchnad fyd eang heddiw. |
Lois: |
Dyma’r ffordd i ymateb i lais Duw yn y farchnad fyd eang. |
Llais 10
Gweddi:
|
Heddiw Arglwydd
defnyddia fi
i brynu
i wario
i fuddsoddi
i helpu
i roi cymorth
i unigolion a chymunedau
sy ddim yn cael digon i fyw.
Heria fi wedyn i argyhoeddi eraill. Amen.
|
Emyn: |
871 “Dyro dy gariad i’n clymu.” (Neu emyn o ddewis) |
Arweinydd:
|
Y Fendith
Rho i ni ieuenctid Cymru
arweiniad
ar sut i draws newid y byd
fel bydd pob unigolyn yn cael
ei drin yn deg. Amen. |