Neges Ewyllys Da 2004
Eleni mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru
yn 83 oed ac ers 1922 mae’r neges wedi bod yn ysgogiad ac yn ysbrydoliaeth i
weithgarwch dyngarol a rhyngwladol yr Urdd. Anfonwyd y neges cyntaf gan Y Parch
Gwilym Davies o Gwm Rhymni. Roedd yn Heddychwr mawr ac yn flaenllaw yn sefydlu
Undeb Cymreig y Cenhedloedd Unedig ac yn ddiweddarach UNESCO. Credai mewn dod â
phlant y cenhedloedd ynghyd a penderfynodd Syr Ifan y dylai'r Urdd ymuno gyda'r
fenter o gyhoeddi'r neges er mwyn dileu'r anwybodaeth a'r rhagfarnau oedd yn
bodoli rhwng cenhedloedd y byd. Roedd y neges cyntaf, a anfonwyd mewn morse
code, yn gweddio ar i Dduw fendithio ymdrechion a gwaith dynion da dros y byd a
dod a rhyfela i ben. Cafwyd un ymateb gan warchodwr Tŵr Eiffel Paris. Darlledwyd
y neges am y tro cyntaf ar y BBC World Service yn 1924 ac erbyn heddiw mae’r
neges yn ymddangos mewn 16 iaith ar y We ac yn cyrraedd pedwar ban byd ac mae
pob un yn y pecyn hwn.
Yn y 50au rhoddwyd sêl bendith i’r neges a chymerodd yr Urdd y cyfrifoldeb dros
gyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn flynyddol ar ddydd Ewyllys Da sef Mai
18, sef dyddiad y gynhadledd heddwch gyntaf yn yr Hâg yn 1899.
Eleni mae’r neges yn cydfynd â phrosiect arbennig iawn mewn cydweithrediad â
Shelter Cymru i godi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc Cymru am effeithiau
digartrefedd ymhlith pobl ifanc a theuluoeddgyda plant. Bydd prosiect AGOR
DRYSAU yn cynnig cyfleoedd arbennig i cymryd rhan mewn gweithdai, derbyn
hyfforddiant, trefnu gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth ynglyn à effeithiau
digartrefedd, cefnogi apel Agor Drysau, a gweithdy cynradd arbennig yn edrych ar
‘y cartref’.
Nôl
|
|