Gwasanaeth Neges
Heddwch ac Ewyllys Da 2005

Paratowyd y gwasanaeth eleni gan y Parch Huw Dylan Jones, Llangwm

CYFLWYNYDD: Hen wraig fach unig oedd Mrs Huws yn byw yn un o drefi glan môr gogledd Cymru.  Doedd ganddi ddim teulu a chan ei bod mewn oed ac yn wael ei hiechyd ni allai fynd allan rhyw lawer.  Un diwrnod cafodd ei tharo’n wael a bu’n gorwedd yn ei thy cyn i neb sylwi bod dim o’i le.
 
CYMYDOG: Wnes i’m sylwi mod i heb ei gweld ers amser.  Roedd fy merch fach efo’r ffliw a ches i’m munud i daro mewn i’w gweld.
 
DYN LLEFRITH: Roeddwn wedi amau bod rhywbeth o’i le ond roeddwn yn brysur ddoe a fedrwn i’m aros i holi a oedd yn iawn.
 
POSTFEISTR: Roedd hi’n arfer dod i nôl ei phensiwn ar ddydd Llun ond wnes i’m meddwl dwywaith pam nad oedd hi wedi bod.  Wnes i’m meddwl am funud bod hi’n sâl.
 
CYFLWYNYDD: Tybed fyddai’r tri yna yn cael eu cynnwys yn y rhaglen ‘Neighbours from Hell!’  Ond pa mor debyg ydyn nhw i ni i gyd ar adegau.  Yn ymddwyn yn ddifeddwl.  Un o’r pethau pwysicaf a ddysgodd Iesu Grist oedd ‘Câr dy Gymydog’.
 
PLENTYN 1: Be ydi cymydog?
 
CYFLWYNYDD: Yn ôl y Thesawrws mae cymydog
 
LLAIS 1: Yn gyfeillgar
 
LLAIS 2: Yn hoffus
 
LLAIS 1: Yn glên
 
LLAIS 2: Yn gariadus
 
LLAIS 1: Yn garedig
 
LLAIS 2: Yn hael
 
LLAIS 1: Yn barod ei gymwynas
 
LLAIS 2: Yn barod i gynorthwyo
 
LLAIS 1: Yn rhywun y gellir ymddiried ynddo
 
LLAIS 2: Yn rhywun sy’n ofalus o eraill
 
CYFLWYNYDD: Dyma yw cymydog ac mae bod yn gymydog da yn dipyn o her i bob un ohonom.
 
PLENTYN 1: Pwy ydi’n cymdogion ni?
 
PLENTYN 2: Pobl drws nesa siwr iawn!
 
CYFLWYNYDD: Dyma oedd yr hen syniad ond mae Iesu Grist yn dysgu rhywbeth gwahanol iawn fel mae’r neges ewyllys da yn nodi – ein cymdogion yw ein brodyr a’n chwiorydd led led y byd, ein cyd-ddyn, ein cyfeillion da, beth bynnag fo’n ffydd neu’n credoau.
 
PLENTYN 1: Sut allwn ni garu ein cymydog?
 
CYFLWYNYDD: Fe ddysgodd Iesu Grist ein bod i garu ein cymydog fel ni ein hunain, hynny yw drwy geisio gwneud yn siwr bod y pethau yr ydym ni mor ffodus o’u cael a’u mwynhau ar gael, i bobl eraill hefyd.
 
CÂN: ‘Sgi’n Toni ddim ty – Geraint Lovgreen
 
CYFLWYNYDD: Doedd gan Toni ddim ty ac yn anffodus mae miloedd o bobl yn yr un sefyllfa ag o yng Nghymru heddiw.  Fe allwn ni fod yn gymdogion da drwy eu helpu.
 
PLENTYN 1: Ond sut? Be allwn ni wneud? Fedra ni ddim gwneud unrhyw wahaniaeth.
 
CYFLWYNYDD: Ar ddiwrnod poeth yn yr haf, teimlai morgrugyn bach yn sychedig iawn ac felly aeth at yr afon i gael diod.  Wrth yfed collodd ei afael a syrthiodd i mewn i’r dwr.  “Help, help” gwaeddodd “fedrai ddim nofio”.  Clywodd colomen a oedd yn hedfan uwchben waedd y morgrugyn a gollyngodd frigyn i mewn i’r afon.  “Dringa ar hwnna” gwaeddodd “ac fe aiff â thi i’r lan”.  “O diolch yn fawr” meddai’r morgrugyn, “rwyt ti wedi achub fy mywyd”.

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach daeth dyn i’r ardal i hela.  Gwelodd y golomen a chododd ei wn ac anelu ati.  Gwelai’r morgrugyn hyn yn digwydd a gwyddai y byddai’n rhaid iddo geisio achub y golomen.  Felly rhedodd at yr heliwr a’i frathu yn ei goes.  Dychrynodd y dyn, taniodd ei wn ond ni lwyddodd i daro’r golomen.  Hedodd hithau i ffwrdd yn ddianaf.

Felly, does na neb yn rhy fach i gynorthwyo eraill.  Fe fedrwn ni gyd fod yn gymdogion da, fe fedrwn ni gyd wneud gwahaniaeth drwy gefnogi gwaith mudiadau fel Shelter Cymru.
 
GWEDDI: (Gellir ei chanu neu ei hadrodd)

Dyma weddi St Ffransis o Assissi sy’n gofyn am i Dduw ein cynorthwyo i fod yn gymdogion da.

Iôr gwna fi’n offeryn dy hedd,
Lle bo casineb dof â’th gariad di,
A lle bo dagrau gad i’m ddod â gwen,
Cyfannu’r holl raniadau boed i mi.

O Arglwydd Dduw, na ad i’m geisio dim
Gan eraill, eithr rhoddi boed i mi,
Na foed i’m hawlio dim imi’n y byd
Ond rhoi i eraill fyddo ‘mraint o hyd.

Iôr, gwna fi’n offeryn dy hedd,
Lle bo amheuaeth boed i’m ddangos ffydd,
A lle bo gofid dof a’th obaith di,

I d’wyllwch boed i’m ddod â golau dydd.
 

Nôl