Gwasanaeth Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2006
'Gobaith'
Arweinydd - GOBAITH - Wrth edrych ymlaen at y dyfodol mae'n rhaid i ni
gael gobaith, hyd yn oed os mai anobeithiol yw ein sefyllfa. Mae'n rhaid
gobeithio am yfory, mae adnod yn y Beibl yn dweud:
'Oherwydd dylai'r arddwr
aredig, a'r dyrnwr ddyrnu, mewn gobaith am gael cyfran o'r cnwd.'
Gwyddom ei bod yn llawer
haws i ni yn y gwledydd cyfoethog i ddweud hyn, gan wybod yn iawn o ble y daw
ein pryd nesaf. Ond edrychwn yn ystod y gwasanaeth hwn yn bellach na ni ein
hunain, yn bellach na Chymru ac yn bellach na'n deall ein hunain.
Cân
- 'Weithiau Rwy'n Gofyn' ('Caneuon Bob Ysgol' tud 31) - Ysgolion Cynradd
- 'Y Gobaith yn y Tir' (Geiriau
a cherddoriaeth Ruth Owen, trefniant Sioned Williams) i'w ganu gan gôr ysgolion
uwchradd.
Arweinydd
- Nid yw gobaith yn dibynnu ar ein cyfoeth, nac ar ein sefyllfaoedd. Daw Gobaith
Cristnogol drwy roi ein ffydd yn Nuw.
Ein Gobaith ni yma heddiw yw
am yfory gwell i holl blant y byd. Credwn fod yr hawl gan bawb i fyw - cyn marw.
Gweddi
Arswyd, trais, newyn ac
ymelwa
llygaid ofnus yn disgwyl
crasfa arall,
llygaid dig yn llosgi o
gasineb a dial,
llygaid gwag yn syllu o
wynebau newynog,
llygaid barus yn bwyta'r
bwyd ar blât rhywun arall
Dim ond ychydig o lygaid
trist yn dangos bod yn ddrwg ganddynt.
Dad, ai dyma weli di pan
edrychi ar dy fyd?
Duw trugaredd gobaith a
chariad diamodol
agor ein llygaid i weld dy
fyd fel yr wyt ti am iddo fod.
Agor ein dwylo a'n calonnau
i rannu ei holl adnoddau.
Dangos i ni sut wyt ti
eisiau i ni fyw a gweithio er dy fwyn di.
Pletha rubanau gloyw gobaith
sy'n gallu trwsio byd clwyfedig
er mwyn i'r darlun o'th fyd
fod yn gyfan eto. Amen.
Llais 1
- Ond beth yw gobaith?
Llais 2
- Edrych ymlaen i'r dyfodol
Llais 3
- Byw mewn ffydd am yfory gwell
Llais 4
- Mae Gobaith yn trawsnewid
Llais 2
- Y mae Gobaith yn disgwyl i bethau newydd ddigwydd
Llais 3
- Y mae Gobaith yn dymuno newid hanes
Llais 4
- Rhinweddau Gobaith yw cyfiawnder, heddwch, cymdeithas a chariad.
Llais 1
- Y mae'n rhaid i Obaith gychwyn RWAN
Arweinydd
- Ond beth allwn ni blant cyffredin Cymru ei wneud am hyn i gyd. Rydym ni
yn dda iawn am wneud swn,
ac mewn gwirionedd gwneud swn
yr ydym wrth ymgyrchu. Dweud NA wrth bob anghyfiawnder yn ein byd, neu fel
dywed Edward H. Dafis yn eu cân, Cân Mewn Ofer.
'Pam da ni'n cefnu o hyd ac
o hyd
ar yr anobaith sydd yn ein
byd?
Pam yr holl falais? Pam yr
holl drais?
Mae'n hen bryd i rhywun godi
ei lais.
Codwn ninnau ein lleisiau
fel plant ac ieuenctid Cymru yn erbyn yr anobaith sydd yn ein byd.
(Sn
y drwm, anogir cymaint o blant â phosibl i wneud sn
gydag offerynnau taro, cyn eu tawelu i wrando ar y neges.)
Adroddir y Neges
Gwrando ar CD o Cân
Mewn Ofer neu gellir ei chanu
Bytholwyrdd Cyhoeddiadau
Curiad
Gweddi
Bydd Teyrngarwch a
ffyddlondeb yn cyfarfod,
a chyfiawnder a heddwch yn
cusanu ei gilydd.
Bydd ffyddlondeb yn tarddu
o'r ddaear,
a chyfiawnder yn edrych i
lawr o'r nefoedd.
Bydd yr Arglwydd yn rhoi
daioni,
a'n tir yn rhoi ei gnwd.
Bydd cyfiawnder yn mynd o'i
flaen,
a heddwch yn dilyn ôl ei
droed.
Amen.
(Salm 85:10-13)
Nôl