Neges Ewyllys Da 2006
Message of Goodwill 2006
Arfau a thlodi sy’n lladd o hyd
Ac mae hyn yn wir drwy’r byd i gyd
Mae
hyn mor hawdd i’w weld – does ond rhaid troi’r teledu ymlaen – mae’r cyfan
yn glir i’r llygaid.
Mae
pawb yn cyfrannu arian – ond ydyn ni’n gwneud digon?
Fe
all pob un ohonom wneud mwy – yn arbennig ni, sy’n byw yn y gwledydd
cyfoethog.
Mae gwledydd tlawd a chyfoethog wedi dioddef rhyfeloedd a
thrychinebau naturiol, ond yn wahanol i’r gwledydd tlawd, mae’r gwledydd
cyfoethog mewn sefyllfa i ymateb. Gall arian ac adnoddau fod o gymorth mewn
trychineb; dim ond ychwanegu at ofidiau wna tlodi.
Gwahoddwn ieuenctid y byd i ymuno gyda ni, bobl ifanc
Cymru, i dynnu sylw at achosion tlodi dros y byd. Dyma gyfle i ni ymgyrchu
i wneud gwahaniaeth, gan ein bod yn
credu fod yr hawl gan bawb i fyw cyn marw.
Defnyddiwch negesfwrdd yr Urdd i rannu
newyddion am ymgyrch y bu i chi ei threfnu neu gymryd rhan ynddi ar thema’r
neges urdd.org/urddaholics