Childline ac NSPCC 2000 - 2001

Ymgyrch y Flwyddyn
2000 - 2001
Llinellau cymorth Childline ac NSPCC yw canolbwynt ymgyrch arbennig gan yr Urdd am eleni. Anogir Ysgolion/Adrannau ac Aelwydydd i drefnu gweithgaredd i godi arian tuag at y ddwy elusen hon. I'r Urddaholics! mae cyfle i chi dderbyn mwy o wybodaeth am waith gwirfoddol gyda'r ddau fudiad trwy gysylltu ar canolfannau isod i dderbyn gwybodaeth am gyrsiau arbennig sydd yn cael eu cynnal yn gyson.

Lluniau staff swyddfeydd yr Urdd ar daith gerdded noddedig o Gwm Cywarch Dinas Mawddwy dros yr Aran Fawddwy a'r Aran Benllyn i Lanuwchllyn.  Cafwyd diwrnod bendigedig a codwyd £880 tuag at y gronfa.  Da iawn!



Nôl