Ymgyrch Croeso Calcutta 2001 - 2004

Ymgyrch ar y cyd rhwng Urdd Gobaith Cymru a Chymorth Cristnogol yw Croeso Calcutta.  Nôd yr ymgyrch yw i addysgu ieuenctid Cymru a chodi ymwybyddiaeth am fywyd ieuenctid yn Calcutta yr India.  Drwy rannu profiadau a diwylliant newydd gallwn ddatblygu parch a chariad at eraill.  Wrth ddysgu am ein gilydd byddwn yn pontio ein cyfeillgarwch, yn gobeithio cau bwlch anwybodaeth ac agor drysau cyfiawnder a heddwch.

Mae Croeso Calcutta wedi cynnig cyfle am weithgareddau addysgiadol lliwgar ar gyfer Adrannau Ysgolion ac Adrannau Pentref a gweithgareddau cymunedol.  Gweithgareddau sydd wedi codi proffeil yr Urdd mewn gwaith ieuenctid rhyngwladol a dinasyddiaeth fyd-eang.  Mae pobl ifanc wedi cael profiad uniongyrchol, dysgu sgiliau allweddol dinasyddiaeth dda, ehangu gorwelion a hynny drwy gael llawer iawn o hwyl hefyd!

        

PAM CALCUTTA?
Mae Cymorth Cristnogol yn gweithio mewn llawer iawn o wledydd dros y byd ac yn cwestiynu achosion tlodi ac yn credu bod angen newid er mwyn creu byd tecach a sicrhau nad yw pobl dlawd ddim yn gorfod aros yn anghenus.

Ar gyfer Croeso Calcutta dewiswyd un ardal mewn un wlad a chanolbwyntio ar waith tri o bartneriaid Cymorth Cristnogol sydd yn gweithio gyda plant a phobl ifanc o’r un ystod oedran ac aelodau’r Urdd.  Yr ardal hon oedd dinas Calcutta a’r partneriaid oedd y CRS (Cathedral Relief Services), SKVIS (Sunderban Khali Village Industry Society) a Sanlaap.  Wrth edrych ar waith y tri partner yma, lluniwyd prosiect Dinasyddiaeth Byd-eang i godi ymwybyddiaeth, addysgu a rhannu profiadau, edrych ar faterion sydd yn effeithio bywydau pobl ifanc, grymuso pobl ifanc a rhoi cyfle iddynt gymryd rhan a dangos sut y gellir gwneud gwahaniaeth.

 

 

LANSIO CROESO CALCUTTA

Cafwyd lansiad hynod lwyddiannus i’r ymgyrch yn Uwchadran Chwilog yn Nhachwedd 2001.  Noson a oedd yn ein hargyhoeddi y caiff Urdd Gobaith Cymru a Chymorth Cristnogol gydweithio ar gynlluniau cyffrous iawn dros y misoedd nesaf.

Yn y lluniau isod gwelir y gweithgareddau a fu’n digwydd yn Chwilog – Mae India yn cynnig gwledd ar gyfer y synhwyrau ac fe gafwyd hynny yn chwilog gyda blasu bwyd, celf a chrefft gyda Cefyn Burgess, paentio wyneb, gemau, cornel stori Shompa gyda Judith Humphreys, eitemau llwyfan gan ddisgyblion Ysgolion ac Adrannau lleol a cherddoriaeth o’r India.

 

TAITH I CALCUTTA 2002
Ar Ionawr y 3ydd 2002 aeth dwy o staff yr Urdd (Manon Wyn a Llinos Roberts) allan i Calcutta gyda Branwen Niclas o fudiad Cymorth Cristnogol, a’r ‘daith ymweliad cefnogwyr’ i Gymorth Cristnogol.  Bu i Manon, Branwen a Llinos gyfarfod a nifer fawr o blant a phobl ifanc sydd yn cael budd o waith partneriaid Cymorth Cristnogol.  Bu cyfle i sgwrsio gyda plant a phobl ifanc, gwneud llawer iawn o nodiadau a phrynu adnoddau er mwyn cynllunio prosiect Croeso Calcutta yng Nghymru.  Penderfynwyd canolbwyntio ar brosiectau yn ymwneud a phlant, pobl ifanc a merched.  Mae problemau megis masnach plant, iechyd, glendid, puteindra a thlodi i’w gweld yn amlwg ar strydoedd Calcutta.  Roedd yr holl brofiadau gafwyd allan yn Calcutta yn fythgofiadwy.  Mae Calcutta yn ddinas sy’n llawn gobaith er gwaethaf ei thlodi, y baw a’r llygredd.




CEFNDIR

Calcutta ydi prif ddinas Gorllewin Bengal yn yr India.  Mae’r ddinas ar ochr ddwyreiniol yr afon Hooghly, sy’n fraich o afon fawr y Ganges.  Mae’r bobl leol yn hoffi galw’r ddinas yn Ddinas Llawenydd.  Ar lan yr afon, mae Calcutta mewn lle da ar gyfer diwydiant, ond dydi’r tywydd poeth, llaith a swompi ddim yn addas iawn ar gyfer pobl.

Mae’r tymheredd yn Calcutta yn amrywio rhwng 108 gradd selsiws a 7 gradd selsiws.  Rhwng misoedd Mehefin a Medi mae 1645 milimedr o law yn syrthio yn y monswn.  Mae nhw’n fisoedd trymaidd iawn.  Ym mis Hydref a Thachwedd mae’r glaw yn cilio, ac mae misoedd y gaeaf o ddiwedd mis Tachwedd i ddiwedd mis Chwefror yn sych a braf.

Mae Calcutta yn un o ardaloedd tlotaf a mwyaf poblog yr India.  Mae 85,500 person yn byw ym mhob milltir sgwâr!  Mae un rhan o dair o bobl Calcutta yn byw mewn slymiau.

Er bod 200 o ffynhonnau mawr a 3000 o ffynhonnau llai yn Calcutta, mae llawer o bobl y ddinas yn defnyddio dwr heb ei ffiltro sy’n gallu arwain at broblemau iechyd.  Mae llawer o le i wella ar safonau byw pobl dlotaf y ddinas.

Hindwiaid ydi pedwar o bob pump o bobl Calcutta, ond mae Mwslemiaid, Crisnogion, Sikhs a Bwdistiaid yn byw yn y ddinas hefyd.  Bengali ydi’r brif iaith, ond mae Urdu, Tamil, Punjabi a ieithoedd eraill yn cael eu siarad yno hefyd.

Ers yr 1870au, Calcutta ydi prif gynhyrchydd jiwt (defnydd tebyg i sach) y byd.

 

 

PARTNERIAID CYMORTH CRISTNOGOL
 

CRS

Mae’r Cathedral Relief Services yn mynd at y bobl, yn dysgu oddiwrthyn nhw, ac yna yn eu hysbrydoli nhw eu hunain i gynllunio, gweithredu a rheoli eu prosiectau a’u rhaglenni eu hunain.  Addysgu’r bobl i helpu eu hunain.  Mae gweithgareddau datblygu y CRS wedi eu lleoli mewn 16 o slymiau, neu bustees fel y gelwir hwy.  Ffoaduriaid sy’n byw yn y bustees, ac mae rhwng 15 a 70 mil o fobl yn byw ym mhob bustee!

Mae’r gwaith yn eang iawn gyda nifer o raglenni sgiliau a prosiectau sy’n hybu incwm a datblygiad cymdeithasol ar gyfer y merched.  Yn bustee Bhukailash e.e., mae clinic iechyd a maeth wythnosol, hyfforddiant i’r merched mewn crefftau jiwt, rheolaeth gwesty, agor cyfrifon banc a chychwyn busnes.  Hefyd ceisio codi safon iechyd yn y gymuned drwy ddosbarthu gwybodaeth a hybu glendid personol, ymweliadau meddyg i’r clinig mam a’i babi a gwybodaeth atal afiechydon. 

Roedd y bobl ifanc wedi cymryd drosodd y Pump House, hen dafarn, a’i throi’n ganolfan ieuenctid fywiog mewn ardal anodd iawn.

Mae’r rhaglen ar gyfer plant sydd eto i fynychu ysgol, a’r rhai sydd wedi’i amddifadu o addysg yn agwedd bwysig arall o waith y CRS.  Caiff y plant a phobl ifanc gyfle i ddysgu darllen ac ysgrifennu, dysgu canu, dawnsio, celf ac addysg gorfforol.  Mae’r CRS yn cynnal Chwaraeon Blynyddol Canolfannau’r Bustees a’r dir y Gadeirlan yn Calcutta.  Cyfle gwych i dros 2000 o blant y bustees gael cymdeithasu a’i gilydd ac ar yr un pryd ennill anrhydedd a gwobrau.   Diwrnod pwysig, gan mai ychydig iawn o gyfle sydd ar gael i blant y bustees ragori, cael hyder bositif o gyflawni camp.

SKVIS
Mae’r prosiect yma wedi datblygu yn helaeth ers ei sefydlu yn 1978 yn Canning ger Calcutta, gan bump o ferched gweithgar iawn wedi iddyn nhw adael y coleg.

Canolfan cynhyrchu dillad yw SKIVIS.  Canolfan sydd wedi rhoi cyfle heb ei ail i ferched sy’n byw ar ynysoedd yn nelta’r afon yn nghefn gwlad tlawd Canning.  Darperir yr offer sydd angen i gynhyrchu’r dillad a’r hyfforddiant i alluogi merched ddatblygu eu sgiliau traddodiadol.  Drwy hyn mae’r merched yn cael eu hybu i ddatblygu fel unigolion, creu incwm ac yn sgil hynny gwella safon byw yn y pentrefi, cael addysg iddyn nhw a’r plant, gwell gofal iechyd, gwarchod yr amgylchfyd a chadw eu diwylliant.

Tyfodd SKIVIS dros y blynyddoedd ac erbyn heddiw maen’t yn cyflogi dros 1000 o ferched a 3 dyn! yn sicrhau amodau gwaith, oriau a thal da, felly mae’r nifer o aelodau teuluoedd sy’n elwa o waith SKIVIS mewn tua 500 o bentrefi, ymhell dros 4000.  Mae’r cynyrch yn cael ei werthu’n lleol ac hefyd yn cael ei allforio dros y byd, yn bennaf drwy TradeCraft.  Yn y canolfannau datblygir y broses o greu’r dillad gyda gwahanol ardaloedd yn gyfrifol am wahanol rannau o’r broses e.e. plannu a medi’r planhigyn cotwm a’r pryfyn sidan, nyddu’r edefyn, gwehyddu’r defnyddiau, y broses organig o lifo’r defnyddiau gyda planhigion, llysiau, ffrwythau, rhisgl pren a dail yna’r broses olaf o greu a gwnio’r dillad lliwgar. 

SANLAAP
Mudiad sy’n gwarchod hawliau plant a merched ifanc.  Mae Sanlaap yn gweithio yn ardaloedd ‘golau coch’ Calcutta ac yn debyg iawn i waith y CRS yn y slymiau, maen’t yn rhedeg canolfannau gwybodaeth ‘drop-in’ sy’n cynnig gwybodaeth i ferched a phobl ifanc – cynnig canolfan gymdeithasol i bobl ifanc drafod gyda’i gilydd a sgwrsio am faterion sydd yn effeithio ar eu bywydau – mae tyfu i fyny mewn ardal ‘golau coch’ yn effeithio ar y bobl ifanc ac yn amharu ar eu derbyniad cymdeithasol.

Dyma ardaloedd prysur iawn gyda strydoedd cul llawn bwrlwm a phawb wrth ei waith yn casglu trethi, y gof a’r gyrrwyr rickshaw yn brysur, y gwerthwyr bwyd a’u danteithion lliwgar, plant yn chwarae ar y llwybrau ymysg cwn, cathod, geifr a moch.   Mae’r ganolfan hefyd yn ganolbwynt saff i’r plant fynychu gweithgareddau allan o oriau addysg, gan bod tyfu i fyny yma yn aml yn mynd law yn llaw gyda thrais a chreulondeb.  Mae plant a phobl ifanc yn yr ardaloedd hyn yn hawdd eu niweidio ond drwy ganolfannau Sanlaap maen’t yn cael hyder wrth gyfarfod a chymdeithasu a’i gilydd.  Creu cylch cryf o ffrindiau ac yn medru rhannu eu problemau, a gweithio drwy hyn yn bositif i wella eu sefyllfa. 

Mae Sanlaap hefyd yn rhedeg lloches ar gyrion Calcutta i ferched ifanc sydd wedi cael eu cipio, eu twyllo a’u camdrin gan y gymdeithas.  Ac yma mae nhw’n cael cyfle i gael addysg, gwasanaeth cownsler a therapi, dysgu sgiliau byw ac hefyd dysgu sgiliau ar gyfer ennill incwm wedi iddynt adael y lloches.  Mae’r merched yma yn gryf a dewr iawn ac yn llawn gobaith i’r dyfodol.  Mae canran o ferched y lloches yn HIV positif.

Mae criw o ferched y lloches wedi ffurfio grwp dawns arbennig iawn o’r enw SANVED sy’n teithio canolfannau ieuenctid yn Calcutta i godi ymwybyddiaeth am faterion cyfoes gyda pobl ifanc megis HIV ac Aids.  Defnyddir dawns fel therapi i ryddhau teimladau yn greadigol.



SHOMPA O INDIA

Mae miloedd o blant Cymru wedi mwynhau gweithdy a chyflwyniad i ddiwrnod ym mywyd Shompa.  Mae diwrnod Shompa yn debyg iawn i ddiwrnod plentyn yng Nghymru, ond mae rhai pethau yn newydd iawn hefyd.  Er bod rhai pethau yn debyg a rhai pethau yn newydd, mae’r ddau yn bwysig os ‘rydym am ddysgu am ein gilydd a parchu diwylliant ein gilydd.

Mae Shompa yn saith oed ac yn byw yn ardal Canning ar gyrion Calcutta, ardal wledig iawn ar ddelta afon fawr.

Bydd Shompa a’i brawd Shurajit yn codi am bump bob bore, a bydd Shompa yn nôl dwr o’r ffynnon, bydd yn dod a digon i ymolchi, i wneud brecwast ac i olchi’r llestri.

Bydd Shurajit yn mynd i’r farchnad gyda’i dad i nôl neges mewn basged fawr – bara, llysiau, ffrwythau, cig a reis.

Wedi i bawb godi, ymolchi a bwyta brecwast mae Shompa a Shurajit yn cerdded i’r ysgol gan gario cinio mewn bocsys tifin.  Wedi cyrraedd yr ysgol bydd gwersi rhifo, ysgrifennu a darllen.

Mae mam Shompa a Shurajit yn gweithio yn SKVIS, un o bartneriaid Cymorth Cristnogol.

Ar ôl ysgol mae Shompa a Shurajit yn cael aros i’r clwb ar ôl ysgol, sy’n debyg iawn i Adran yr Urdd.  Yno fe gant hwyl yn cymdeithasu a’r pethau mae Shompa yn fwynhau fwyaf yw canu, dawnsio a cymryd rhan mewn dramau.



GWEITHGAREDDAU

Cynradd – sgyrsiau yn defnyddio adnodd Cymorth Cristnogol – llyfr Shompa o India a chodi ymwybyddiaeth am y pwysigrwydd o ddysgu a pharchu diwylliannau newydd.

Mae’r gweithgareddau wedi bod yn amrywiol iawn o brintio bloc i gael paentio patrymau henna ar ddwylo!

Uwchradd – gweithgareddau yn cyflwyno Masnach Deg

Uwchradd a hyn – gweithgareddau yn codi ymwybyddiaeth am HIV/Aids



EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD

Mae llawer iawn o weithgareddau cyffrous wedi cymryd lle yn Eisteddfodau’r Urdd gyda chyfle gwych i godi ymwybyddiaeth am Croeso Calcutta o arddangosfa Indiaidd i reid mewn ricsho, i addurno dwylo gyda henna!  Cafwyd twrnament ‘Gemau Gwyrion’ rhwng timau Cymorth Cristnogol, yr Urdd ac S4C yn Eisteddfod Tawe Nedd ac Afan!


 



TAITH GYFNEWID CROESO CALCUTTA

YMWELIAD Â SANLAAP

Mis Medi 2003 aeth chwech o Urddaholics draw i Calcutta i ymweld a phartneriaid Sanlaap dan arweiniad Cymorth Cristnogol.  Rhan gyntaf o daith gyfnewid oedd hon wedi ei threfnu gan Cymorth Cristnogol ac Urdd Gobaith Cymru.  Bu’n ymweliad a phrofiad gwerthfawr iawn i’r Urddaholics ac i ferched lloches Sneha.  Sefydlwyd cyfeillgarwch cadarn drwy’r ymweliad a chafwyd cyfle i ddysgu am ein gilydd, a rhannu diwylliant.  Cyflwynwyd y grwp i waith arloesol partner fel Sanlaap, a chafwyd gweld a’n llygaid ein hunain sut mae Sanlaap yn gweithio yn y gymuned, a chwrdd a phobl ifanc sydd yn cael budd o waith Sanlaap yn ddyddiol.  Roedd yn gyfle i weld sut mae mudiad fel Cymorth Cristnogol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl mewn gwledydd tlawd a lle bo angen.

Mae i daith gyfnewid ganlyniadau cadarnhaol iawn a’r mwyaf amlwg yw “profiad”.  Yn ogystal a hyn bu i’r daith gyflawni holl amcanion sylfaenol yr Urdd, wrth i’r cyfle ddatblygu sgiliau ac annog dinasyddiaeth dda.  Datblygwyd sgiliau trefnu, llenwi ffurflenni grant a datblygu hyder yn cyfarfod a gwneud cyflwyniadau i’r cyhoedd cyn y daith ac wedi dychwelyd, wrth rhannu’r hanes yn ôl yn y gymdeithas.



YMWELIAD SANLAAP Â CHYMRU

Braint i’r Urdd a Chymorth Cristnogol ym mis Mai 2004 oedd cael croesawu pump o ferched ifanc a thri arweinydd draw i Gymru o loches Sneha yn Calcutta, ar ail ran o daith gyfnewid Croeso Calcutta.  Trefnwyd taith drwy Gymru ar gyfer yr ymwelwyr gan yr Urddaholics fu draw yn Calcutta mis Medi 2003.  Yn ystod yr ymweliad bu i’n gwesteion gyfarfod a thros 2000 o fobl ifanc drwy’r Urdd a Chymorth Cristnogol.  Trefnwyd gweithdai yn codi ymwybyddiaeth am fywyd yn Calcutta a Chymru.  Cynhaliwyd gweithdai oedd yn rhannu diwylliant drwy ddefnyddio dawns traddodiadol.  Bu aelodau hyn yr Urdd yn cymryd rhan mewn gweithdai oedd yn codi ymwybyddiaeth am faterion cyfoes megis HIV/Aids a chael cyfle i drafod hynny’n agored fel grwp.  Mae dawns yn gyfrwng pwysig iawn ym mywyd y merched sydd yn byw yn lloches Sneha.  Roedd Laxmi, Sudesna, Savita, Rakhi a Nasima yn rhan o grwp dawns Sanved - llais Sanlaap.  Roedd eu perfformiadau yn lwyfan iddynt godi ymwybyddiaeth am hawliau plant a merched ifanc a defnyddiwyd dawns fel therapi, fel llais a dehongliad celfyddydol i ryddhau teimladau ac emosiwn.  Roedd eu perfformiadau pwerus gosgeiddig yn ennill calonnau cynilleidfaoedd dros Gymru, gyda penllanw’r ymweliad o lwyfan Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn o Oedfa’r Bore ar y dydd Sul.

Bu’r ymweliad hwn yn brofiad bythgofiadwy a phositif iawn i’n gwesteion, un fydd yn rhoi hyder a gobaith iddynt ar gyfer y dyfodol.  Roedd yn brofiad enfawr iddynt wrth addasu i ddiwylliant newydd – bwyd, amser, tywydd, iaith a gwelwyd datblygiad yn eu hagweddau wrth i’r daith fynd ymlaen.  Gwelwyd eu bod yn fwy hyderus bob dydd wrth arwain gweithdai a gwneud penderfyniadau am gynnwys gweithdai.  Roedd rhai o’r merched yn agored iawn ynglyn a’u gorffennol, ac yn fodlon rhannu hynny gyda phobl ifanc ac roeddent yn croesawu agwedd pobl ifanc Cymru tuag at HIV/Aids a’u parodrwydd i drafod yn agored heb ragfarn na stigma.



APÊL ARIANNOL CROESO CALCUTTA

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu tuag at Ymgyrch Croeso Calcutta a sicrhau llwyddiant aruthrol i’r prosiect hynnod gyffrous yma rhwng yr Urdd a Cymorth Cristnogol.


Nôl