Rhown Derfyn Ar Dlodi

Mae Cymorth Cristnogol yn un o grwp o fudiadau sy'n cyd-ymgyrchu ar fasnach a chyfiawnder - ar 19 Mehefin 2002 cynhaliwyd y lobi mwyaf yn San Steffan Llundain gyda dros 12,000 o fobl yn addo i withredu gydag eraill i newid y rheolau sy'n rheoli masnach ryngwladol fel eu bod yn gweithio i ddileu tlodi, i amddiffyn yr amgylchfyd a sicrhau mynediad i fywyd yn ei holl gyflawnder i bawb. Am ragor o wybodaeth ynglyn a'r ymgyrch a digwyddiadau yn y dyfodol cysylltwch a Cymorth Cristnogol ar 029 2061 4435 neu ymwelwch a gwefan Cymorth Cristnogol www.christian-aid.org.uk.

Roedd yn ddiwrnod arbennig iawn yn Sir Ddinbych ar 19eg Tachwedd! Roedd Sir Ddinbych yn dathlu cyrraedd statws Masnach Deg wedi llawer o waith caled yn ymgyrchu! Cynhaliwyd achlysur arbennig i ddathlu'r staws hwn yn neuadd Eglwys y Santes Fair yn Y Rhyl. Cafwyd eitemau gwych iawn gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Dewi Sant ac Ysgol Uwchradd Y Rhyl. Darllenwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd gan Manon a Timothy o Ysgol Uwchradd Glan Clwyd. Gwahoddwyd Simeon Green sydd yn gweithio i Windward Bananas i'r dathliadau. Rhoddodd adroddiad diffuant iawn i ni am yr effaith gadarnhaol mae cefnogi Masnach Deg yn ei gael ar gymunedau tlawd y byd, ac sut rydym ni yn medru gwneud gwahaniaeth am well dyfodol i weithwyr a theuluoedd mewn cymunedau tlawd dros y byd.  Llongyfarchiadau Sir Ddinbych!

Gweithdy
Ysgol Creuddyn

Cafwyd cryn hwyl mewn gweithdai yn Ysgol Y Creuddyn yn ddiweddar wrth edrych ar y ffordd y medrwn ni wneud gwahaniaeth i fywydau pobl dlawd dros y byd wrth gefnogi Masnach Deg. Edrychwyd hefyd ar y rheolau sydd yn bodoli yn y byd masnachu, areffaith y mae rhain yn gael ar fasnachu dros y byd. Roedd digon o gyfle i drafod ac hefyd i wneud gweithgareddau ymarferol fel sefydlu rheolau annheg i wneud yn siwr bod tim pel-droed Ysgol Creuddyn yn curo Man-U, ac hefyd edrych ar labeli dillad a trainers i weld ym mha wledydd y gwnaethpwyd hwy. Treiliwyd rhan olaf y sesiwn yn creu negeseuon i gefnogi ein cyd-ddyn dros y byd.

 
Nôl