Beth sydd ar gael i'w noddi?
Y Prif Bafiliwn
Y Prif Bafiliwn yw'r prif ffocws ar gyfer gweithgareddau'r Eisteddfod, ac mae'r lle yn
fwrlwm o
weithgaredd. Gellir noddi'r Pafiliwn am gyfnod penodol o amser, yn amrywio o gystadleuaeth
unigol i ddiwrnod cyfan. Mae'r Pafiliwn presennol yn dal hyd at 2,000 o bobl. Mae noddi'r
pafiliwn
yn caniatáu i ni gynnig yr adnoddau gorau posibl i'r rheiny sy'n cymryd rhan.
Mae'r cystadlaethau y gellir eu noddi yn cynnwys y 'Gân Actol' sydd
yn llenwi'r Pafiliwn ar nos
Lun, a chystadleuaeth y cerddorfeydd sydd yn gwneud yr un fath ar y nos Wener.
Gellir noddi hefyd nosweithiau unigol yn y Pafiliwn, gan gynnwys
Sioeau ar gyfer plant cynradd
ac uwchradd, a chyngherddau amrywiol.
Prif Seremonďau Eisteddfod Genedlaethol
Urdd Gobaith Cymru
Beth am noddi un o'n prif seremonďau, sydd yn cael eu darlledu'n fyw, ac yn derbyn sylw
mawr
yn y wasg, ac ar y teledu. Mae'r rhain yn gystadlaethau uchel eu proffil sydd yn dathlu
talent
ieuenctid Cymru.
|
![]() |
Ardaloedd Bwyd a Phicnic
Dyma'r lle bydd pobl yn eistedd ac ymlacio! Gallwch noddi'r ardaloedd yma a chael eich
gweld yn cyfrannu at fwynhad pobl o'r Eisteddfod.
Tywyswyr ac Arwyddion ar y Maes
Mae arwyddion ar y maes yn sicrhau fod pawb yn gwybod y ffordd ac yn gallu cyrraedd y
cystadlu mewn pryd!