Yn ôl i'r cynnwys

Beth yw'r Urdd?

Nod yr Urdd yw

sicrhau cyfle, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, i holl ieuenctid Cymru ddatblygu’n unigolion cyflawn;
a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas, gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol.



Cyflawnwn hyn i'n 50,000 o aelodau drwy'r canlynol

Gwersylloedd
Daw 30,000 o blant a phobl ifanc i'n gwersylloedd yng Nglan-llyn a Llangrannog yn flynyddol, ac yno gallant fwynhau merlota, hwylio, sgio, nofio, dringo a llu o weithgareddau eraill.

rafft_glan-llyn.jpg (13509 bytes)

Chwaraeon
Mae 22,000 o’n haelodau yn cymryd rhan yn ein cystadlaethau chwaraeon megis nofio,
pêl-droed, hoci, pêl-rwyd, bowlio deg a thraws gwlad. Ceir cystadlaethau chwaraeon lleol a chenedlaethol.

Adrannau ac Aelwydydd
Mae grwpiau o blant a phobl ifanc yn cyfarfod yn enw’r Urdd ar draws Cymru o dan arweiniad ein
gwirfoddolwyr, gyda chefnogaeth ein 16 Swyddog Datblygu. Maent yn cael y cyfle i gael profiadau
celfyddydol…a llawer mwy.

Cylchgronau
Mae tri chylchgrawn yn cael eu cyhoeddi’n fisol: iaw! ar gyfer dysgwyr ysgolion uwchradd, Bore Da i
ddysgwyr dan 12 oed a Cip i blant dan 12 oed.


...ac wrth gwrs ein esteddfodau.....