Mwy o bethau i'w noddi...
Cyhoeddiadau
Mae sawl cyfle i fod yn gysylltiedig â chyhoeddiadau'r
Eisteddfod, gan gynnwys y canlynol:
Medalau a Thystysgrifau
Cyflwynir medalau i bawb sydd yn dod yn gyntaf, ail neu drydydd yn yr
Eisteddfod. Mae'r rheiny
sydd yn fuddugol yn y cystadlaethau gwaith cartref yn derbyn eu medalau cyn yr Eisteddfod
ynghyd
â'r tystysgrifau. Cyflwynir 1,500 o dystysgrifau i gyd!
Cynhyrchir hyd yn oed mwy o dystysgrifau na hynny, gan ein bod yn
cyflwyno tystysgrifau i bawb
sydd yn fuddugol yn ein 110 o Eisteddfodau Cylch a 25 o gystadlaethau Sir. Mae'n gyfle
gwych
i gwmni sicrhau fod eu cefnogaeth i'r Eisteddfod ac i'r Urdd yn cael ei gydnabod yn llawn.
Pafiliynau ar y Maes
Mae nifer o bafiliynau yn cael eu codi o amgylch
maes yr Eisteddfod, ac yn rhoi cyfle i roi sylw i
dalentau amrywiol. Mae noddi'r Pafiliynau yn rhoi cyfle i noddwyr arddangos mewn
amgylchfyd
safonol oddi fewn i'r Pafiliynau, ac i gael eu cysylltu ag arddangosfeydd cyffrous. Mae'r
pafiliynau
sydd ar gael i'w noddi yn cynnwys:
|
![]() |