|

|
| Cynllun
newydd a chyffrous i addysgu ieuenctid Cymru ac Iwerddon
|
 |
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi derbyn grant o
£183,174 tuag at brosiect Bendigeidfran a fydd yn sefydlu
partneriaeth a dealltwriaeth rhwng plant a phobl ifanc Cymru ac
Iwerddon. Prosiect ar y cyd ydyw rhwng mudiad ieuenctid Ogras yn
Iwerddon a’r Urdd.
Rhoddwyd y grant gan y rhaglen INTERREG IIIa drwy Swyddfa Gyllid
Ewropeaidd Cymru.
Bwriad y cynllun Bendigeidfran yw pontio ieuenctid Cymru ac Iwerddon
ac addysgu ein hieuenctid am ddiwylliant a thraddodiadau’r ddwy wlad
ac annog dealltwriaeth a pharch tuag at ein ieithoedd a ieithoedd
eraill. Bydd yn cynnig cyfleon gwych i bobl ifanc, rhwng 13 – 26 oed,
i ddatblygu sgiliau newydd a rhannu profiadau â datblygu
chyfeillgarwch â phobl ifanc o’r un oed a hwy o Iwerddon a Chymru.
Mae dros 150 o aelodau Urdd Gobaith Cymru a mudiad ieuenctid Ogras
eisoes wedi manteisio yn y cyfle i fynychu un o deithiau cyffrous y
cynllun Bendigeidfran.
Bydd criw o Gymry ifanc yn ymweld ag ardal Waterford, Iwerddon rhwng
17 - 20 Awst 2006, er mwyn mynychu cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yr
amgylchedd a’r cyfryngau yn Iwerddon. Byddant yn cael eu hyfforddi
ac yn ymweld â chwmnïau sy’n arbenigo yn y meysydd hyn gan gynnwys
cwmnïau radio a theledu drwy gyfrwng yr iaith Wyddelig. Bydd hefyd
yn gyfle i ddysgu ychydig o’r iaith Wyddelig, dysgu sut i chwarae
pêl droed Gaeleg a Hurling a llawer iawn mwy!
Dywedodd Catrin Mai Jones o Ruddlan, Sir Ddinbych, sydd eisoes wedi
bod ar daith efo’r cynllun Bendigeidfran:
“Yr wyf wedi mwynhau ac wedi elwa lot o fod ar y daith efo’r cynllun
Bendigeidfran a dwi’n edrych ymlaen i’r nesaf! Mae’r holl brofiadau
a’r cyfleoedd a gefais wedi fy nghyfoethogi i fel unigolyn. Yr wyf
yn hynod ddiolchgar i Urdd Gobaith Cymru am roi’r cyfle gwerth
chweil yma imi.”
Yn ôl Nia Meleri, Uwch Swyddog Bendigeidfran:
“Mae’r cynllun yn targedu pobl ifanc 13 oed a hŷn. Y bwriad tymor
hir yw bod y ddau fudiad yn hyfforddi arweinwyr ifanc sy’n barod i
gynorthwyo a sefydlu clybiau ar gyfer yr oedran iau. Mi fydd
mynychwyr y cyrsiau yn derbyn tystysgrifau ac yn datblygu sgiliau
newydd a fydd o fudd iddynt i’r dyfodol.”
Am fwy o fanylion cysylltwch gyda: Nia Meleri ar 07976003307
|