Eisteddfod yr Urdd

Triban yr Urdd

Sir Gâr
   28 Mai - 2 Mehefin, 2007
        
  Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru
         Prif Ŵyl Gelfyddydol Ieuenctid Ewrop

LOGO '07

Darnau Cystadlu

Sut i archebu darnau 

Dylech brynu llyfrau a chopïau angenrheidiol gan eich llyfrwerthwr lleol. Os nad ydynt mewn stoc, mae’n siwr y bydd ef yn barod i’w harchebu. Yn achlysurol mae copïau yn mynd allan o brint, a byddant ar gael gan Adran yr Eisteddfod, ac fe’u rhestrir isod.  

Mae gwneud copiau ychwanegol eich hun o gerddoariaeth, barddoniaeth neu unrhyw waith sydd wedi ei gyhoeddi yn anghyfreithlon.  

Dylid anfon archebion am ddarnau i:          Darnau, Adran yr Eisteddfod,

Swyddfa’r Urdd, Ffordd Llanbadarn,

Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1EY 

Er mwyn derbyn copïau o’r darnau isod sydd i’w cael yn rhad ac am ddim, rhaid naill ai

i)                    anfon amlen maint A4 wedi ei chyfeirio’n barod ac arni stamp gwerth o leiaf £0.44 ynghyd â nodyn yn nodi pa ddarn yr ydych am ei archebu.

ii)                gwneud archeb ar lein Am Ddim. Dilynwch y ddolen hon.

 

Er mwyn derbyn copïau o’r darnau lle codir tâl amdanynt, rhaid anfon nodyn yn egluro pa ddarn yr ydych am ei archebu, ynghyd â siec am y swm priodol yn daladwy i Urdd Gobaith Cymru. 

Copïau sydd ar gael o Adran yr Eisteddfod yn rhad ac am ddim

 Adran Gynradd 

Cyst. 1            Rhagarweiniad i Mister Triongl

Cyst. 4            Rhagarweiniad i Holari – Cân Iodel

Cyst. 29          Geiriau Chwedl Llyn y Fan Fach

Cyst. 36          Ymgom Oedran Bl. 6 ac iau

Cyst. 53          Ymgom (Dysgwyr) Oedran Bl. 6 ac iau

 

Adran Uwchradd 

Cyst. 149        Geiriau Cymraeg ‘Nawr huna’r petal porffor’

Cyst. 150        Geiriau Cymraeg ‘Y Plowboi’

Cyst. 151        Geiriau Cymraeg ‘Yr awel yn Llatai’

Cyst. 155        Geiriau Cymraeg ‘Y Poswm’

Cyst. 159        Geiriau Cymraeg ‘Chwalu Muriau Jerico’

Cyst. 162        Geiriau Cymraeg ‘Popeth hardd sydd yn y byd’

Cyst. 169        Copi ‘Y Deryn Du a’i Blifyn Sidan’

Cyst. 192        Geiriau ‘Nadolig’

Cyst. 195        Trefniant ‘Mael yr Wyddfa’

Cyst. 196        Cainc ‘Sosban Fach’

Cyst. 197        Geiriau ‘Dawns y Don’

Cyst. 198        Côr Cerdd Dant Oedran Bl.13 ac iau

Cyst. 200        Geiriau ‘Yn Sempringham’

Cyst. 201        Detholiad penodol o ‘Pen Dafad’

Cyst. 205        Detholiad penodol o ‘Llyffantod’

Cyst. 210        Sgript osod ‘Charlie’

Cyst. 216        Canllawiau ac awgrymiadau ¼ Awr o Adloniant

Cyst. 234        Gosodiad parti dysgwyr oed Bl. 13 ac iau (D)

 Copïau lle codir tâl amdanynt (yn cynnwys cludiant)

 Adran Gynradd

 Cyst. 2            ‘Glöyn Byw’ yn D leiaf                       £2.00

Cyst. 3            ‘Wedi’r Gaeaf’ yn F                           £3.00

Cyst. 8            ‘O Seren Wen’                                   £4.00

Cyst. 9            ‘Clychau’r Eos’                                  £3.00

Cyst. 10          ‘Ffa La La’                                         £4.00

 Adran Uwchradd 

Cyst. 147        Copi o 'Mab y Pysgotwr'                  £1.00

Cyst. 160        Copi o ‘Y Sir a Garwn ni’                  £5.00

Cyst. 161        Copi o ‘Hen Hen Hiraeth’                 £6.00

Cyst. 167        Copi o ‘Hela faich o gotwm’            £5.50

 Copïau nad sy’n barod ar hyn o bryd:

 Cyst. 152        Geiriau Cymraeg ‘Care Selve’

                        Geiriau Cymraeg ‘O del mio amato ben’

                        Geiriau Cymraeg ‘The Vagabond’

 

Pwysig! 

Er bod y Rhestr Testunau yn nodi fod Cystadleuaeth 165 Côr Merched S.S.A. 14-25 oed (Aelwydydd) - ‘Gwenllïan’, Eric Jones, ar gael o Adran yr Eisteddfod, mae erbyn hyn yn cael ei chyhoeddi gan Curiad. 

Er bod y Rhestr Testunau yn nodi fod Cystadleuaeth 161 Côr Bechgyn Oedran Blwyddyn 13 ac iau - ‘Hen Hen Hiraeth’, Dafydd Iwan, yn cael ei chyhoeddi gan Curiad, mae erbyn hyn yn cael ei pharatoi gan Adran yr Eisteddfod am £6.

 Cystadleuaeth 167 – Mae ‘Hela Faich o Gotwm’ (Pick a Bale) ar gael drwy Adran yr Eisteddfod – Pris £5.50

 

I ddechrau llenwi ffurflenni cystadlu, cliciwch yma

 

 


 

Gari - cymeriad Eisteddfod 2007

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Sir Gâr 2007