|
Celf, Dylunio a Thechnoleg
Fy Ngwlad
Pe gallwn i weld Cymru drwy lygad du y frân,
A chlywed ddoe a'i hanes yn llais yr awel lân;
Pe gallwn fynd i'r lleuad i ofyn i'r hen ŵr
Am gip ar antur fory yn wyneb llyfr y dŵr;
Mi luniwn i ei stori er mwyn ei chadw'n fyw,
Rhown ffurf i bob un arwr ac i bob cân rhown liw;
Mewn paent rhown bob pencampwr, pob llenor a phob sant,
Mewn brodwaith rhown gerdd-dafod, mewn desglau rhown gerdd-dant.
I gofio beth yw'n cenedl ni
A dysgu deall pwy wyf i.
Mererid Hopwood
|