Eisteddfod yr Urdd
Sir Gâr
   28 Mai - 2 Mehefin, 2007
        
 Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru


RHAGARWEINIAD

Mae’r Safle yma yn bodoli i gynnig cymorth i gystadleuwyr sicrhau’r hawl mewn darnau hunan ddewisol.  Mae na nifer o haenau o hawliau mewn gwaith ac rydym yn gobeithio y bydd y Safle yma’n eich arwain drwy’r camau er mwyn sicrhau’r caniatâd i berfformio gwaith sydd dan hawlfraint, yn yr Eisteddfod(au).

Mae rhai darnau yn anodd iawn i’w clirio ar gyfer eu perfformio / darlledu. Mae’n synhwyrol osgoi rhai caneuon e.e. caneuon a cherddoriaeth o’r sioeau cerdd mawr, caneuon gan artistiaid o’r Unol Daleithiau a chaneuon y Beatles, gan fod yr hawlfraint yn gymhleth a bod y cyhoeddwyr yn nerfus iawn o roi’r hawl i chi.

Os ydych yn llwyddiannus ac yn cyrraedd llwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol a bod y perfformiad yn cael ei ddarlledu (ar S4C neu ar wefan yr Urdd) yna cyfrifoldeb y cwmni cynhyrchu teledu fydd trwyddedu a thalu am yr hawliau darlledu. Bydd disgwyl i chi grybwyll fod siawns y bydd darllediad fel rhan o’r trafodaethau.

Beth yw Hawlfraint?

Mae hawlfraint yn rhoi hawliau i grewyr gwahanol fathau o ddeunyddiau megis llenyddiaeth, celf, cerddoriaeth a recordiadau sain i reoli defnydd o’r deunydd hwnnw.    

Beth sydd yn cael ei warchod gan Hawlfraint?

Mae hawlfraint yn rhoi hawliau i’r crewyr yn y mathau canlynol o ddeunydd :

       ·        Llenyddol
       ·        Dramatig
       ·        Cerddoriaeth
       ·        Fersiynau o’r uchod.
       ·        Recordiau sain ar unrhyw ffurf
       ·        Ffilmiau gan gynnwys DVD neu Fidio
       ·        Rhaglenni.

Am ba hyd mae hawlfraint mewn grym?

Mae hyd hawlfraint yn amrywio ac yn dibynnu ar y math o waith. 

-         Mae hawlfraint mewn gwaith llenyddol, dramatig neu gerddorol yn parhau am gyfnod bywyd yr awdur / cyfansoddwr ac yna am 70 mlynedd ar ôl eu marwolaeth.

-         Mae hawlfraint mewn recordiad sain yn terfynu 50 mlynedd ar ôl i’r recordiad gael ei ryddhau.

-         Mae hawlfraint mewn rhaglen a ddarlledwyd yn terfynu 50 mlynedd ar ôl ei ddarlledu.

Os yw’r gwaith allan o gyfnod yr hawlfraint yna mae’n eiddo cyhoeddus (in the public domain) ac felly nid oes angen mynd drwy’r broses o sicrhau’r caniatâd.  Dylid nodi hyn ar y ffurflen cystadlu.

Beth sydd angen i chi ei wneud?

Os yw’r darn gwaith yn un hunan ddewisol yna bydd yn rhaid i chi sicrhau’r hawl i berfformio yn gyhoeddus unrhyw waith sydd o dan hawlfraint. Mae’r darnau gosod gan yr Urdd eisoes wedi eu gwirio ac nid oes angen i chi wneud dim gyda’r darnau hyn o’ch perfformiad(au).

Os ydych yn llwyddiannus yn eich cystadeuaeth ac yn cyrraedd llwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, bydd siawns uchel y bydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu ar S4C gyda chyd-ddarllediad ar safle gwe’r Urdd. Cyfrifoldeb y cwmni cynhyrchu teledu fydd sicrhau caniatâd am y darllediad teledu, ond mae disgwyl i chi grybwyll y darllediad posib wrth sicrhau’r caniatâd i berfformio. Mae’r safle yma yn ceisio eich tywys drwy’r camau priodol er mwyn cysylltu gyda’r bobl gywir a sicrhau’r caniatâd angenrheidiol.

Nodiadau pwysig

Cofiwch mai dim ond ar gyfer y darnau hunan ddewisiad y mae angen i chi gael caniatâd perfformio. Mae pob darn gosod sydd wedi ei enwi yn y rhaglen testunau wedi eu clirio gan yr Urdd.

Cofiwch fod angen caniatâd ar gyfer pob darn – hyd yn oed os yw’r darn yn fyr iawn. 

Gadewch amser digonol i sicrhau’r caniatâd.

Nid yw’n arferol talu ffî am y caniatâd i berfformio yn yr Eisteddfod. Bydd ffî yn daladwy gan y cwmni teledu/S4C am y darllediad ond NID Y CHI FYDD YN GYFRIFOL AM Y COSTAU YMA. Bydd y cwmni cynhyrchu teledu yn cysylltu gyda’r cwmnïau cyhoeddi/recordio gan drafod unrhyw ffioedd pe baech yn llwyddianus ac yn cyrraedd llwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cofiwch amgáu y caniatâd perfformio â'r ffurflen gystadlu. Os ydych yn cael problem gyda’r system neu gyda’r broses o sicrhau’r caniatâd yna cysylltwch â:

cymorthhawlfraint@urdd.org

Y cam nesaf

Atebwch y cwestiynau trwy glicio ar y dolennau isod. Bydd y system yn eich arwain drwy’r gwahanol gamau ac yn cynnig manylion cefndir er mwyn i chi allu esbonio beth yw’r Eisteddfod, beth yw natur y caniatâd yr ydych yn ceisio ei sicrhau, a chynnig dogfennau i chi eu defnyddio fel tystiolaeth.

Os ydych am glirio gwaith llenyddol neu gerddoriaeth mewn llyfr yna cliciwch yma.
Os ydych am glirio gwaith cerddorol yna cliciwch yma

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â chaniatad perfformio, cysylltwch â cymorthhawlfraint@urdd.org

 

 

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Sir Gâr 2007