Eisteddfod yr Urdd
|
![]() |
Cystadlaethau Nos Eisteddfod
Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Gallwch archebu tocynnau ar gyfer y cystadlaethau a digwyddiadau nos drwy swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru neu 08700 402 000 Prisiau Tocynnau Cystadlu Nos (ar wahan i nos Sadwrn): £3 a £5 Nos Lun 30 Mai Cystadleuaeth Cân Actol dan 12. Noddir gan Hugh James Y gorau mewn cerddoriaeth ac adloniant gyda digon o hiwmor ac amrywiaeth i bawb. Grwpiau o blant o ysgolion cynradd ac adrannau o bob cwr o Gymru’n cystadlu am y fraint o ennill y tlws fel pencampwyr y grwp oedran ieuengaf. Eich cyfle cyntaf i weld sêr y dyfodol! Nos Iau 2 Mehefin Cystadleuaeth Cân Actol dan 15 Ail noson o fwynhad pur, adloniant cerddorol amrywiol, y tro hwn ar gyfer plant oedran ysgol uwchradd. Nos Wener 3 Mehefin Cystadleuaeth Cerddorfa/Band dan 25. Noddir gan Hugh James Newid cywair efallai, ond yr un mwynhad pur wrth wrando ar offerynwyr ifanc gorau’r wlad yn arddangos eu talent. Nos Sadwrn 4 Mehefin Uchafbwynt y cystadlu am yr wythnos! Cystadlaethau’r dydd yn parhau o’r sesiwn prynhawn. Bydd tocyn maes dydd Sadwrn yn sicrhau mynediad i’r pafiliwn ar gyfer cystadlu nos Sadwrn.
|
|
Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Canolfan Mileniwm Cymru 2005 |