Eisteddfod yr Urdd
Canolfan Mileniwm Cymru
   30 Mai - 4 Mehefin, 2005
        
 Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru


Manylion Perfformiadau Theatrig

Nos Fawrth

Licris Olsorts – Cip ar ysgolion ac ati
Disgrifiad o’r Rhaglen - Cyfres o olygfeydd gan ddramodwyr cyfoes ar gyfer pobl ifanc gyda golygfeydd cyswllt o ganu a dawns.

Nos Fercher

Aelwyd Llanrwst – Trafferth mewn ysgol
Disgrifiad o’r Rhaglen - Drama fer mewn 4 rhan, gan Gwenan Gruffydd.

Ysgol Gyfun Llanhari – Detholiad o waith Dennis Potter – Blue Remembered Hills

Nos Iau

Ysgol y Berwyn – Ti, fi a Mrs Jones (addasiad Derek Williams a Huw Dylan Jones o “You me and Mrs Jones” gan Tony Horitz.
Disgrifiad o’r Rhaglen - Mae’r ddrama’n dilyn hynt a helynt dau o bobl ifanc cyffredin ar eu taith i chwilio am ‘arwyr’. Dônt ar draws sawl cymeriad ‘arwrol’ – ond pwy yw ein gwir arwyr?


CF1 – “Ni’n Dwy” gan Nan Lewis
Disgrifiad o’r Rhaglen - Drama fer am fam a merch sy’n gorfod delio gyda’r salwch meddyliol schizophrenia.

Ysgol Gyfun y Cymer – Conffeti, babis a Posh a Becks

Disgrifiad o’r Rhaglen - Detholiadau o 3 drama wahanol sy’n ymdrin â phriodas (1) Gwaith Dyfeisiedig ar drefnu priodas (2)

 Detholiad o Y Tŵr gan Gwenlyn Parry (3) Detholiad o Pŵff gan Lynn Nottage

Aelwyd yr Ynys – Sant Joan (detholiad o gyfieithiad Syr Thomas Parry a ddrama George Bernard Shaw)

Disgrifiad o’r Rhaglen - Un o arwresau rhamantaidd y byd yw St. Joan. Ym 1429 arweiniodd fyddin o deng mil o filwyr Ffrengig i ffuddudoliaeth yn erbyn y Saeson ar ôl iddi glywed lleisiau o’r nefoedd yn dweud wrthi am gysegru ei bywyd i achub Ffrainc o grafangau Lloegr. Yna coronodd y Dauphin yn frenin yn Eglwys Gadeiriol Rheims. Ym 1431 daliwyd hi gan Ddug Burgundy – un o’i chenedl ei hun oedd yn ymladd ar ochr y Saeson. Ar ôl 4 mis o garchar cafodd ei llosgi am ddewiniaeth – dim ond 19 oed oedd hi.
Dechrau’r stori a welwn yn y ddrama hon…




 

 

 









 

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Canolfan Mileniwm Cymru 2005