Eisteddfod yr Urdd
|
![]() |
O’R NEWYDD. Newidiadau i’r Rhestr Testunau (Hydref 2004). Mae’n hanfodol fod y daflen hon yn cael ei dosbarthu yn eang rhwng pob adran o waith yr Ysgol/Adran/Aelwyd sy’n ymwneud â chystadlaethau’r Eisteddfod. Rheolau Cyffredinol yr Eisteddfod – Tudalen 10: Dylai’r pennawd Dawnsio disgo/Grwp aerobig/dawnsio creadigol ddarllen fel a ganlyn: Dawnsio disgo/Dawnsio Cyfoes. Rheolau Cyffredinol – Tudalen 11 – Rheol 6: Dylai ddarllen fel a ganlyn: Bydd beirniadaeth fer ysgrifenedig ar gael i bob cystadleuydd ar ôl i’r gystadleuaeth ymddangos ar y llwyfan. Yn achos y cystadlaethau cyflwyniadau dramatig i ddysgwyr ystyrir y rhagbrawf yn gystadleuaeth derfynol hefyd, oni nodir hynny’n wahanol yn y Rhaglen Swyddogol. Traddodir beirniadaeth fer a lleolir y cystadleuwyr. Ni ellir addo beirniadaeth ysgrifenedig i gystadleuwyr ar waith cartref. Cyhoeddir rhestr o’r buddugwyr a chyfrol o gyfansoddiadau llenyddol buddugol a threfnir arddangosfa o fuddugwyr yn yr Adran Gelf, Dylunio a Thechnoleg. Rheolau Cyffredinol – Tudalen 11- Rheol 7: Dylai’r rheol ddarllen fel a ganlyn: Rhaid i bob Pwyllgor Sir/Rhanbarth gynnal ei Eisteddfod Sir/Rhanbarth yn seiliedig ar y rhaglen hon, cyn neu ar 19 Mawrth 2005, ac yna anfon rhestr o’r buddugwyr (y tri cyntaf ym mhob achos) ynghyd â’r ffurflenni cystadlu, y darnau cerddoriaeth yn yr Adran Offerynnol, sgriptiau a.y.y.b., i Adran yr Eisteddfod erbyn 21 Mawrth, 2005.
Rheolau Cyffredinol – Tudalen 12 – Rheol 16. Dylai’r rheol ddarllen fel a ganlyn: Mae’n ddealledig nad yw’r beirniaid i hyfforddi na chyfarwyddo unrhyw gystadleuydd yn yr adran o waith yr Eisteddfod y maent yn beirniadu ynddi rhwng 1 Medi a’r Eisteddfod. Ni ddylai Pwyllgorau Cylch a Sir/Rhanbarth wahodd beirniaid yr Eisteddfod Genedlaethol i feirniadu yn eu heisteddfodau hwy yn yr un adran o waith yr Eisteddfod y byddant yn beirniadu ynddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Dyddiadau i’w Cofio – Tudalen 15. Dylid darllen fel a ganlyn: 1 Hydref – 1 Rhagfyr 2004. Ysgrifenyddion canghennau sy’n bwriadu ymgeisio ar y Cystadlaethau Cyflwyniadau Dramatig, Canu Ysgafn, Drama Gerdd, Chwarter awr o adloniant, a Thimau Siarad Cyhoeddus i anfon at Adran yr Eisteddfod, Swyddfa’r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth i gael ffurflen gystadlu a chyfarwyddiadau. 30 Ionawr, 2005. (a) Y dyddiad olaf i gyfrif y disgyblion mewn ysgol. (b) Y dyddiad olaf i Adran yr Eisteddfod dderbyn y ffurflen gystadlu yn ôl oddi wrth Ysgrifenyddion y canghennau ar gyfer y cystadlaethau Cyflwyniadau Dramatig, Canu Ysgafn, Detholiad o Ddrama Gerdd, Chwarter Awr o Adloniant a Chystadlaethau Siarad Cyhoeddus. 28 Chwefror, 2005. Bydd Adran yr Eisteddfod a’r Swyddogion Datblygu wedi cytuno ar amseriad, dyddiad a man cynnal rowndiau rhanbarthol y cystadlaethau Timau Siarad Cyhoeddus. Adran Theatr. Rheolau Cystadlu – Tudalen 26 Gellir gweld Canllawiau Hawlfraint ar www.urdd.org.
Adran Llenyddiaeth Rheolau Cystadlu – Tudalen 33 Dylid dileu y geiriau Gwyddoniaeth a Mathamateg yn rhif 1. Cystadleuaeth rhif 36 – Cân Actol dan 12 oed (Oedran Bl. 6 ac iau)(Y.C./Adran)(Ysgolion a hyd at 100 o blant rhwng 4 – 11 oed)(8 – 30 mewn nifer). Dylai’r pennawd ddarllen fel a ganlyn: Thema –‘ I bedwar ban’ neu ‘Diolch yn fawr Dan’ neu ‘Diolch yn fawr am...’. Cystadleuaeth rhif 49 – Llefaru Unigol i Ddysgwyr 10 – 12 oed. Mae’r llyfr ‘Beth yw Rhif ffôn Duw?’ allan o brint felly gellir cael y darn ‘Prifddinas Caerdydd yn Dihuno’ o’r Adran Eisteddfod, Swydfa’r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth. Cystadleuaeth rhif 161 – Ensemble Lleisiol 14 – 25 oed (Digyfeiliant) Dylid nodi fod hon yn gystadleuaeth gogyfer ag Aelwydydd yn unig. Cystdleuaeth rhif 163 – Cor Meibion Tri Llais 14 – 25 oed (Aelwydydd) ‘Cerddwn Ymlaen’, Dafydd Iwan (Trefniant J. Eirian Jones) Cyhoeddir gan Wasg Gwyn (Rhif 4070) ac ar gael yn y siopau nid o Adran Eisteddfod, Swyddfa’r Urdd, Aberystwyth. Cystadleuaeth rhif 167 – Cyflwyno Alaw Werin Unigol 15 – 19 oed (Oedran Bl. 10 – 13) ‘Y Ddou Farch’, Caneuon Llafar Gwlad 2. Dylid canu penillion 1, 2, 3, 4, 5, 10 ac 11 yn unig. Copi ar gael o’r Adran Eisteddfod, Swyddfa’r Urdd, Aberystwyth. Cystadleuaeth Rhif 193 – Parti Cerdd Dant dan 15 oed (Oedran Bl. 7, 8 a 9)(Dim mwy na 20 mewn nifer) Mae’r llyfr Glas y dorlan a Mymryn Mwy allan o brint felly gellir cael y darn ‘Pen y Cei’ o’r Adran Eisteddfod, Swyddfa’r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth. Cystadleuaeth Rhif 196 – Parti Cerdd Dant 14 – 25 oed (Aelwydydd)* (Dim mwy na 16 mewn nifer) ‘Fy Ngwlad’, Gerallt Lloyd Owen ar y gainc ‘Llwyn Hudol’, Nan Jones. *Caniateir cynnwys hyd at 25% o aelodau dros 25 a than 30 oed. Cystadleuaeth Rhif 200 – Llefaru Unigol 15 – 19 oed. Mae’r llyfr ‘Llanw’n Troi’ allan o brint a gellir cael y darn ‘Arlunydd y Pafin’ o’r Adran Eisteddfod, Swyddfa’r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth Cystadleuaeth Rhif 212 – Chwarter awr o Adloniant (14 – 25 oed) Caniateir cynnwys aelodau dros 25 oed a than 30 oed. Cystadlaethau 214 a 215 – Dawnsio Gwerin 12 – 15 a 15 – 19 oed. Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yw cyhoeddwyr Hen a Newydd a Dawnsiau Ffair Nantgarw.
Cystadleuaeth Rhif 232 – Llefaru Unigol 15 – 19 oed (Dysgwyr) Mae’r llyfr ‘Llanw’n Troi’ allan o brint a gellir cael y darn ‘Ar Fideo’ o’r Adran Eisteddfod, Swyddfa’r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth.
YR ADRAN GELF, DYLUNIO A THECHNOLEG. Cystadlaethau 103-108 a 320 – 323. Ym mhob cystadleuaeth pyped, dylai'r maint ddarllen: 1000mm x 1000mm x 1000mm nid 100mm x 100mm x 100mm Cystadlaethau 66 – 68 a 281 – 282. Dylai’r pennawd i’r cystadlaethau uchod ddarllen fel a ganlyn: Gwaith Lluniadu yn seiliedig ar y thema mewn un neu gyfuniad o gyfryngau, megis y cyfryngau canlynol: paent, pensil, creion, pastel neu inc.
Cystadlaethau 69 – 71 a 283 – 284. Dylai’r pennawd i’r cystadlaethau uchod ddarllen fel a ganlyn: Collage yn seiliedig ar y thema mewn cyfuniad o gyfryngau.
Cystadlaethau 118 – 120 a 330 – 331. Ni ddylai’r cystadlaethau uchod ddod o dan yr adran Gwaith Creadigol 3D a dylai eu pennawd ddarllen ‘Gwau (â llaw) a/neu Crosio.
Cystadlaethau 125, 126 a 336. Dylai’r cyfarwyddiadau ddarllen fel a ganlyn: UN print yn seiliedig ar y thema. Dylid cyflwyno pob eitem wedi’i fowntio ar gerdyn a heb fod yn fwy na 600mm x 500mm.
Cystadlaethau 127, 128 a 337. Dylai’r cyfarwyddiadau ddarllen fel a ganlyn: UN print yn seiliedig ar y thema. Dylid cyflwyno pob eitem wedi’i fowntio ar gerdyn a heb fod yn fwy na 600mm x 500mm. |
|
Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Canolfan Mileniwm Cymru 2005 |