Eisteddfod yr Urdd
|
![]() |
Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2005 Enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2005 yw Lowri Walton o Gaerdydd. Lowri oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Ddawns Unigol i Ferched 15 – 25 oed yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Canolfan Mileniwm Cymru. Mae’r ysgoloriaeth yn werth £4,000 Disgybl yn Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd yw Lowri ac mae’n gobeithio mynd ymlaen i’r brifysgol i wneud cwrs dawns a drama. Mae wedi perfformio mewn nifer o sioeau dawns yn Llundain a Chaerdydd, ac wedi cystadlu mewn Gwyl Ddawns Werin Rhyngwladol yn Palma, Majorca ddwywaith gyda Dawnswyr Nantgarw. Mae wyth o bobl ifanc yn cystadlu am yr ysgoloriaeth bob blwyddyn sef enillydd yr Unawd 19-25 oed, enillydd y llefaru 19-25 oed, enillydd yr unawd cerdd dant 19-25 oed, enillydd yr unawd allan o sioe gerdd, enillydd yr unawd offerynnol, enillydd y ddawns unigol i ferched 15 25 oed ac enillydd cystadleuaeth cyflwyno drama unigol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Cynhaliwyd y gystadleuaeth eleni yn Galeri, Caernarfon ar 16 Medi. Llongyfarchiadau mawr i Lowri Walton. |
|
Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Canolfan Mileniwm Cymru 2005 |