Eisteddfod yr Urdd
|
![]() |
Croeso i'r Bae Sut fyddwch chi’n cyrraedd? Prif ŵyl gelfyddydol ieuenctid Ewrop yng nghanolfan berfformio mwyaf cyffrous y Byd – dyna brofiad cwbl newydd hyd yn oed i’r Eisteddfodwyr mwyaf selog! Ymunwch â’r 15,000 o gystadleuwyr, y 100,000 o ymwelwyr a’r 1 miliwn o wylwyr teledu ym mwrlwm Eisteddfod yr Urdd 2005 Eisteddfod Arloesol Eleni, rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr her o gyflwyno math hollol newydd o Eisteddfod. Bydd y cystadleuthau llwyfan yn digwydd ym mhrif awditoriwm Canolfan y Mileniwm – llwyfan ardderchog ar gyfer arddangos talentau sêr y dyfodol yn un o uchafbwyntiau blwyddyn gelfyddydol y genedl. Yn ogystal, bydd y Bae cyfan yn rhan o’r profiad eisteddfodol – gan gynnig ‘maes’ tipyn yn wahanol i’r arferol gyda digon o weithgareddau a difyrrwch i’r teulu oll. Peidiwch â cholli’r cyfle unigryw i fod yn rhan o Eisteddfod yr Urdd 2005, sydd hefyd yn rhan o raglen dathliadau Caerdydd 2005, sef hanner canmlwyddiant Caerdydd fel prifddinas Cymru. -------------------------------------------- Mae Bae Caerdydd wedi newid llawer dros y blynyddoedd. Yma gallwch darllen am hanes y bae a beth sydd yn y bae heddiw.
Pethau i'w gwneud: |
|
Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Canolfan Mileniwm Cymru 2005 |