Pwyllgor Ieuenctid Mônstârs
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn 2004
"Mônstars?" dwin clywed chin dweud, "ddim Mônamental?"Na, maer Mônamental wedi hen fynd ar Mônstârs din enw ni bellach. Enw llawer gwell da chim yn meddwl?
Erbyn i chi ddarllen hwn mi fydd haf prysur iawn ir Pwyllgor Ieuenctid wedi hen fynd a chyfnod prysurach on blaenau wrth barhau i hyrwyddor Eisteddfod.
Yn ystod rhan olaf tymor yr haf cawsom ddisgos llewyrchus iawn yng nghylchoedd Cefni ac Alaw/Cybi. Daeth nifer fawr iawn o blant ynghyd gydai ffrindiau wedi gwisgon tu hwnt o ffasiynol ac yn barod i ddawnsio. Cafwyd andros o hwyl gydar DJ Dafydd John. Gwnaethpwyd elw hynod o daclus ar gyfer ein targed. Cylchoedd Eilian a Menai peidiwch chi a diagaloni nad ydych chi wedi cael disgos eto mi fyddant yn cael eu trefnu yn o fuan.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Ar Awst 13eg a 14eg roedd gan yr Urdd stondin yn Sioe Amaethyddol Môn yn gwerthu nwyddau a bu rhai o aelodau Mônstârs yn weithgar tu hwnt yn ystod y ddau ddiwrnod yn peintio wynebau, rhoi cymorth gydar wal ddringo, rhannu sticeri a cherdded o gwmpas y sioe gyda Mr Urdd.
Ar nos Fercher y sioe cafwyd gig hynod o lewyrchus ( FFANTASTIG i fod yn onest) yng nghwmni Bryn Fôn a Bysedd Melys. Gwerthwyd pob un tocyn o fewn dim ac roedd ysgubor Tafarn y Rhos yn orlawn a phawb yn mwynhau eu hunain. Diolch o galon i bawb or pwyllgor a fu o gymorth yn hyrwyddor noson ac yn stiwardio.
Yn fuan iawn yn yr wythnosau nesaf mae dau aelod or pwyllgor wedi bod yn ddigon dewr ( neu gwirion) i gytuno gwneud absail i lawr Twr Marcwis. Y ddau wallgofyn fydd Arwel ac Arwyn ac os dwi wedi clywed yn iawn bydd y ddau mewn gwisg ffansi! Pob lwc ir ddau ac os oes gennych ddiddordeb eu noddi rhowch alwad i mi. Rydym yn gobeithio casglu llawer o arian felly byddwch yn hael.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Bellach hefyd rydym wedi cael ein crysau polo ac ew rydym yn edrych yn smart.
Wel, dyna ni y tro, cofiwch os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno a ni rhowch alwad i mi.
Hwyl am y tro a parhewch in cefnogi.
Eirian Stephen Williams, Cadeirydd. 01407 720 077
O.N. Diolch am gefnogaeth y Ffatri Fenter a fu o gymorth i ni wrth gynnal gig Bryn Fôn a Bysedd Melys.![]() |
![]() |
![]() |