![]() |
O DDRWS I DDRWS AR GYFER YR EISTEDDFOD |
Er bod ymweliad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd âg Ynys Môn oddeutu dwy flynedd i ffwrdd, mae ymdrechion lleol i godi arian wedi cychwyn o ddifri. Mae pwyllgorau apêl, sefydlwyd eisioes ar hyd a lled yr ynys, nawr yn anelu casglu cyfanswm o £200,000 wrth i'r sir baratoi ar gyfer croesawu gwyl ieuenctid diwylliannol mwya' Ewrop yn 2004. Bydd yr arian yn hanfodol ar gyfer cynnal Eisteddfod Urdd Ynys Môn 2004 lwyddiannus gyda phob pentref a thref ar yr ynys yn chwarae rhan yn yr ymgyrch casglu. Bydd hefyd yn cynrychioli cyfraniad Môn tuag at y gost o gynnal yr wyl anferth, fydd ymhell dros £1 miliwn.
Eglurodd Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Eisteddfod Urdd Ynys Môn 2004, Alwyn Owens, "Rydym wedi gofyn i bob cymuned codi swm penodol gan ddibynnu ar y boblogaeth a chyfraniadau tuag at Eisteddfodau'r gorffennol. Bydd y pwyllgorau apêl yn gweithio'n galed yn ystod misoedd y gaeaf ac ymhell i'r flwyddyn newydd er mwyn cyrraedd eu targedau." Pwyllgor Apêl Porthaethwy fydd un o'r cyntaf i gychwyn casgliad drws i ddrws yn hwyrach y mis yma. Disgwylir oddeutu 50 o wirfoddolwyr gymryd rhan yn yr ymgyrch rhwng Medi 9 a 21 wrth iddynt weithio tuag at gyrraedd targed y dref o £16,000.
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn, Derek Evans,
"Bydd cefnogaeth pobl Sir Fôn yn hanfodol er mwyn ein galluogi i gyrraedd ein targed o £200,000. Fe fydd y gwaith casglu yn hanfodol yn nhermau cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yma ar yr ynys."
Ychwanegodd, "Dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, fe fyddwn hefyd yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'n holl ymdrechion ni, i gasglu arian ac yn wir gychwyn ar y gwaith."