EISTEDDFOD URDD GOBAITH CYMRU MôN 2004

Dydd Iau, 21ain Tachwedd yn Oriel Môn, daeth 15 o ddisgyblion Blwyddyn 9 o'r pum ysgol Uwchradd ar yr Ynys i weithio gyda’r Prifardd Meirion MacIntyre Huws i greu Cerdd Groeso i'r Eisteddfod pan ddaw i Fôn yn 2004.
Meirion MacIntyre Huws oedd Bardd Plant Cymru hyd at ddiwedd Awst eleni, ac fe gafodd wahoddiad yn gynharach eleni i lunio Cerdd Groeso i wahodd pawb drwy Gymru benbaladr i Fôn i fwynhau eu hunain yn Eisteddfod yr Urdd yn 2004.

Roedd y disgyblion yno o tua 9.30 y bore tan 2.30 y prynhawn yn cydweithio gyda Meirion MacIntyre a’r athrawes oedd gyda’r disgyblion, Bethan Rees Thomas.

Meddai Dafydd Idriswyn Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Llên Eisteddfod yr Urdd 2004,

"Rydan ni’n ffodus iawn yn cael prifardd fel Meirion Macintyre yma i weithio gyda’r disgyblion. Rydan ni’n awyddus iawn i dynnu pawb i mewn i gyfrannu at Brifwyl yr Urdd ym Môn yn 2004.

Mae bwysig fod pob disgybl ysgol drwy’r Sir yn cael cyfle i wneud rhywbeth tuag at yr Eisteddfod pan ddaw hi i Fôn yn 2004, a ble’n well i ddechrau na thrwy lunio’r gerdd groeso?"

Ychwanegodd Derek Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith,

"Mae hwn yn gyfle ardderchog i’r disgyblion. Mae nhw’n sicr o elwa o’r profiad o gael cydweithio â Phrifardd fel Meirion MacIntyre. Dwi’n siwr y cawn ni gerdd tan gamp o’r gweithdy ac y bydd hyn yn adlewyrchu’r croeso twymgalon sy na ym Môn i’r genedl gyfan yn 2004."

MeiMac&C.jpg (150175 bytes) MeiMac&L.jpg (138042 bytes) MeiMac-g.jpg (124672 bytes)