
|
DIOGELWCH Y PLANT YN
FLAENORIAETH YN EISTEDDFOD YR URDD - Cwmni cyfathrebu yn cefnogi’r mudiad
Does dim angen i blant sy’n ymweld ag Eisteddfod Genedlathol yr Urdd
eleni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i bryderu eu bod yn mynd ar goll
yn ym Mae Caerdydd.
Diolch i’r Urdd a’r cwmni cyfathrebu StrataMatrix bydd plant sy’n
ymweld â’r Eisteddfod eleni yn derbyn breichledau am ddim i’w gwisgo,
gyda rhif llinell gymorth arnynt i alw am gymorth os byddant yn mynd
ar goll.
“Gan bod Eisteddfod yr Urdd yn torri tir newydd rydym yn awyddus i
blant o bob rhan o Gymru deimlo’n ddiogel mewn amgylchedd trefol yn
yr Eisteddfod eleni”, yn ôl Cyfarwyddwr StrataMatrix Dawn Havard
“Dros y blynyddoedd mae’r Eisteddfod wedi ei chynnal mewn pafiliwn
ar dir fferm neu mewn parc ond eleni mae’r plant a’r bobol ifanc yn
cael y cyfle unigryw i fanteisio ar y cyfleusterau gorau yn y byd
yng Nghanolfan y Mileniwm ac atyniadau’r Bae yng Nghaerdydd ac rydym
yn awyddus i aelodau’r Urdd o bob oed i fwynhau’r profiad yn llawn.
“Bu cysylltiad agos rhwng StrataMatrix â’r Urdd dros y blynyddoedd
ac rydym hefyd yn ei hystyried yn briodol i ail lawnsio delwedd
newydd y Cwmni yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
“Rydym ni yn StrataMatrix yn rhannu dyheadau Urdd Gobaith Cymru ac
yn unol â gwerthoedd y Mudiad rydym ni yn seilio ein delwedd newydd
ar ein Cymreictod a’n dealltwriaeth eang o Gymru drwy ddefnyddio
llythrennu a delweddau clir ac eglur a’r slogan – Y pwyslais ar
Gymru … Communications with a Welsh accent
“Sefydlwyd StrataMatrix fel y cwmni cysylltiadau cyhoeddus
dwyieithog cyntaf yng Nghymru ym 1979 a ninnau nawr yn dechrau ar
gyfnod newydd yn ein hanes ar ôl 25 mlynedd rydym wedi penderfynnu
dylunio delwedd newydd a lawnsio gwefan newydd i gyflwyno gwaith y
Cwmni”
Bydd y plant yn derbyn y breichledau wrth gyrraedd yr Eisteddfod
sy’n cychwyn ar ddydd Llun Mai 30.
Dywedodd Sian Eirian Cyfarwyddwr Eisteddfod a’r Celfyddydau yr Urdd
ei bod yn croesawu’r cynllun hwn er mwyn ychwanegu at fwyniant y
plant fydd yn ymweld â’r Ŵyl.
“Mae’r Eisteddfod eleni o reidrwydd yn wahanol i eisteddfodau’r
gorffennol ond mae’n her arbennig i ni i ddatblygu dulliau gwahanol
o drefnu’r Wyl a ddarpariaeth ar y Maes, ac wrth gwrs mae diogelwch
y plant bob amser yn flaenoriaeth i ni.
“Gall rhieni ac athrawon fod yn dawel eu meddwl ein bod yn gwneud
ein gorau i sicrhau bod ymweliad â’r Eisteddfod yn brofiad diogel a
chofiadwy”.
Mae cyfanswm o 40,000 o aelodau’r Urdd yn cymryd rhan yn y cystadlu
mewn eisteddfodau cylch a sir a disgwylir tua 120,000 o ymwelwyr yn
yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bae eleni.
Eisteddfod yr Urdd yw’r achlysur Cymraeg cyntaf yng Nghanolfan
Mileniwm Cymru a bydd dewis yn y dyfodol i’r Urdd fynd yn ol yno i
gynnal yr Ŵyl yn y Bae bob pedair blynedd
Bydd ymweliad yr Eisteddfod â’r Bae yn rhoi hwb o £3.4 miliwn i’r
economi lleol.
Am fwy o wybodaeth cysyllter â: Manon Wyn, Swyddog Marchnata a
Chysylltiadau, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, 01970 613115,
manonwyn@urdd.org
View in English
|