|
|
|
Urdd
Gobaith Cymru |
|
|
|
Bydd casgliad o waith Celf, Dylunio a Technoleg cannoedd o blant a phobl ifanc Cymru yn cael eu beirniadu yn Genedlaethol ar 11, 12 a 13 Ebrill 2006 yng Ngholeg Llysfasi. Mae’r gwaith eisoes wedi ei feirniadu ar lefel cylch a rhanbarth gyda’r goreuon yn cyrraedd y Genedlaethol. Bydd arddangosfa o’r darnau buddugol ym mhabell Celf, Dylunio a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Ddinbych ar ddiwedd mis Mai. Bydd y Fedal Gelf yn cael ei gyflwyno ar ddydd Llun yr Eisteddfod. Noddir y Fedal Gelf eleni gan Gwmni Ifor Williams. Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a’r Celfyddydau Urdd Gobaith Cymru: “Mae’r Urdd yn ymfalchïo ein bod yn meithrin talentau celfyddydol trwy gyfrwng Celf, Dylunio a Thechnoleg. Mae meithrin dawn greadigol yr un mor bwysig â’r holl dalentau eraill y mae’r Urdd yn eu datblygu. Mae gan yr Urdd dros 60 o gystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg ac ymfalchïwn bod y safon yn arbennig o uchel bob blwyddyn.” Os hoffech chi ffilmio eitem o’r beirniadu Celf, Dylunio a Thechnoleg cysyllter â: Siân Eleri Davies, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Swyddfa’r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, 01970 613118, Sianeleri@urdd.org NODIADAU I OLYGYDDION
|
|
Cadeirydd:
Rhiannon Lewis Prif Weithredwr: Efa Gruffudd
Jones |