|
|
|
Urdd
Gobaith Cymru |
|
|
|
RAS FALWNS FAWR I GROESAWU EISTEDDFOD YR URDD I SIR DDINBYCH Mae Urdd Gobaith Cymru yn trefnu ras falwns enfawr i groesawu Eisteddfod yr Urdd i Sir Ddinbych eleni. Bydd y ras yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 13 Mai yng Nghanolfan Hamdden Y Rhyl rhwng 10 - 12 o’r gloch. Trefnir y digwyddiad gan Bwyllgor Gweithgareddau a Chyhoeddusrwydd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych a bydd yr elw yn mynd tuag at yr Eisteddfod. Bydd cymeriadau S4C, Mistar Urdd a Clwydo yno a bydd cyfle i wylio gêm rygbi rhwng ysgolion lleol a llu o weithgareddau potes. Bydd gwobr o £50 i’r person fydd yn berchen ar y balŵn a fydd wedi teithio bellaf, gwobr o £25 i’r person fydd yn dychwelyd y balŵn, a bydd gwobr i’r unigolyn fydd wedi gwerthu y nifer mwyaf o falwns. Meddai Mair Edwards, Swyddog Datblygu Urdd Gobaith Cymru Sir Ddinbych: “Diolch yn fawr iawn i ddisgyblion y sir sydd wedi bod yn gwerthu’r balŵns ac edrychwn ymlaen at eich cwmni i weld 1,600 o falŵns yn dechrau’r ras yng Nghanolfan Hamdden Y Rhyl.” Mae Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yn cael ei chynnal eleni yn Rhuthun rhwng 29 Mai a 3 Mehefin. Mae tocynnau i’r Eisteddfod ar werth ar lein – urdd.org/eisteddfod neu trwy ffonio 0845 2571 639 Os hoffech chi drefnu ffotograffydd neu griw ffilmio i ddod i’r Ras Falŵns cysyllter â: Manon Wyn, Swyddog Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, Swyddfa’r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, 01970 613115, manonwyn@urdd.org NODIADAU I OLYGYDDION
|
|
Cadeirydd:
Rhiannon Lewis Prif Weithredwr: Efa Gruffudd
Jones |