Urdd Gobaith Cymru
   Swyddfa’r Urdd
     Ffordd Llanbadarn
       Aberystwyth
         Ceredigion
          SY23 1EY

        
Ffôn 01970 613110
      Ffacs 01970 626120
Ar y We:www.urdd.org

 

 

PAFILIWN EISTEDDFOD YR URDD AR EI DRAED

Heddiw (dydd Iau 11 Mai) bydd un o ryfeddodau Cymru yn cael ei osod yn nhref Rhuthun.  Bydd craen anferth yn codi pafiliwn newydd Eisteddfod yr Urdd i'w le ar faes yr Eisteddfod yng nghaeau Ysgol Brynhyfryd a ffermydd Maes Llan a Whitegates ar gyrion y dref. 

Rhwng 29 Mai a 3 Mehefin y pafiliwn yw canolbwynt gweithgareddau'r Eisteddfod, gyda chystadlaethau a chyngherddau yno gydol yr wythnos.  Mae 1,600 o seddi yn y pafiliwn a bydd y cynllun newydd yn sicrhau y bydd pob aelod o'r gynulleidfa yn gallu gweld llwyfan yr Eisteddfod yn glir. 

Meddai Rheolwr y Maes, Ian Carter:

"Bydd Eisteddfodwyr eleni yn gweld gwelliannau mawr yn y pafiliwn newydd, gyda gwell golygfa o'r llwyfan o bob sedd.  Mae'r gwaith adeiladu yn dechrau'r wythnos yma, ac mae'n dipyn o her gan fod y pafiliwn newydd yn adeilad mwy na'r hen un.  Mae angen darn helaeth o ddaear wastad i'w godi - mae'r pafiliwn tua 40 metr o led a 60 metr o hyd - ac rydyn ni'n edrych mlaen i weld y pafiliwn ar ei draed."

Mae cynllun y pafiliwn yn cynnwys gofod eang uwch ben y lwyfan, sy'n golygu na fydd y goleuadau yn amharu o gwbwl ar yr olygfa o'r llwyfan.  Bydd hefyd esgyll o boptu'r llwyfan fydd yn cael eu defnyddio i storio setiau a hwyluso trefniant y llwyfan.

Ar dalcen y pafiliwn bydd y stiwdio deledu ac ystafell noddwyr, yn edrych allan dros y maes a thu hwnt i brydferthwch bryniau dyffryn Clwyd. 

Fel yr esbonia Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau, bydd popeth yn gyfleus iawn i Eisteddfodwyr eleni: 

"Unwaith eto rydym yn gallu cynnal holl ragbrofion yr Eisteddfod ar y maes - y rhan helaethaf ohonyn nhw yn Ysgol Brynhyfryd, ac mae hyn yn mynd i hwyluso'r trefniadau i'r cystadleuwyr.  Rydyn ni'n ddiolchgar iawn o fod wedi derbyn cydweithrediad llawn Cyngor Sir Ddinbych, a phennaeth ac athrawon Ysgol Brynhyfryd a pherchnogion tir Maes Llan a Whitegates gydol y daith a rwy'n ffyddiog y bydd yr Eisteddfod yn Rhuthun yn Eisteddfod i'w chofio diolch i ymroddiad y nifer fawr o wirfoddolwyr brwdfrydig lleol." 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Manon Wyn, Swyddog Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, Urdd Gobaith Cymru, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, 01970 613115, manonwyn@urdd.org

TYNNU LLUNIAU:

Bydd cyfle i dynnu lluniau ar faes yr Eisteddfod rhwng hanner dydd a 3.00 o'r gloch y prynhawn ddydd Iau, 11 Mai, tra fydd y craen yn codi'r pafiliwn newydd i'w le.  Bydd Cyfarwyddwyr yr Eisteddfod, Siân Eirian, yno i roi cyfweliadau.  Mae maes yr Eisteddfod ar gaeau Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun.  Os bydd y tywydd yn anffafriol fore dydd Iau (er enghraifft yn wyntog iawn), os gwelwch yn dda cysylltwch â Swyddfa'r Eisteddfod ar y maes ar 01824 709564 i sicrhau y bydd y craen yno. 

EISTEDDFOD YR URDD:

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw’r yl ieuenctid fwyaf yn Ewrop.

Bydd 40,000 o bobl ifanc yn cystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau gan gynnwys llefaru unigol, corau, dawns, celf a chrefft, cyfansoddi a barddoniaeth.

Mae’r Eisteddfod yn denu dros 100,000 o ymwelwyr, 15,000 o gystadleuwyr a bron i filiwn o wylwyr teledu.

View in English

 

Cadeirydd: Rhiannon Lewis    Prif Weithredwr: Efa Gruffudd Jones
Cwmni Urdd Gobaith Cymru (Corfforedig), Rhif Cwmni: 263310.  Cwmni Cyfyngedig.  Cofrestrwyd yng Nghymru.  Elusen Gofrestredig Rhif 524481