Urdd Gobaith Cymru
   Swyddfa’r Urdd
     Ffordd Llanbadarn
       Aberystwyth
         Ceredigion
          SY23 1EY

        
Ffôn 01970 613110
      Ffacs 01970 626120
Ar y We:www.urdd.org

 


ENILLYDD YSGOLORIAETH BRYN TERFEL URDD GOBAITH CYMRU 2006

Enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru 2006 yw Rhys Taylor o Aberystwyth. Cynhaliwyd y gystadleuaeth heno yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, gydag wyth o bobl ifanc Cymru yn cystadlu am yr ysgoloriaeth sy’n werth £4,000.

Mae Rhys yn 24 oed ac ef oedd enillydd yr unawd offerynnol yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ym mis Mai.  Llynedd, enillodd Rhys radd dosbarth cyntaf mewn clarinét yng Ngholeg Brenhinol Cerddoriaeth Manceinion.  Mae wedi cyhoeddi CD yn ddiweddar, a'i obaith yw bod yn glarinetydd proffesiynol.

Meddai Rhys:

"Dyma ddiweddglo perffaith i'm cyfnod o gystadlu gyda'r Urdd. Roedd hi'n bleser cystadlu heno yn erbyn perfformwyr eraill o safon mor uchel. Mae'n anrhydedd cael gwobr dan enw un sydd wedi gwneud cymaint dros y celfyddydau yng Nghymru.

Dwi am ddefnyddio'r arian ar gyfer hyfforddiant proffesiynol."

Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod a’r Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru:

“Cafwyd gwledd arbennig heno yn Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru ac mewn cystadleuaeth aruchel daeth y clarinetydd Rhys Taylor i'r brig gyda chanmoliaeth frwd y panel beirniaid.  Mae heno eto yn profi bod Urdd Gobaith Cymru yn llwyr ymroi i ddatblygu talentau pobl ifanc Cymru. Diolch o galon i Bryn Terfel am ei ddiddordeb cyson yng ngwaith yr Eisteddfod a’r Urdd.”

Am fwy o fanylion, cysyllter â Siân Eleri Davies ar 07976 330360

Llun 1
Llun 2

View in English

Cadeirydd: Rhiannon Lewis    Prif Weithredwr: Efa Gruffudd Jones
Cwmni Urdd Gobaith Cymru (Corfforedig), Rhif Cwmni: 263310.  Cwmni Cyfyngedig.  Cofrestrwyd yng Nghymru.  Elusen Gofrestredig Rhif 524481