|
|
|
Urdd
Gobaith Cymru |
|
|
|
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi derbyn gwahoddiad i fod yn rhan o agoriad swyddogol adeilad Y senedd ar 1 Mawrth. Bydd tri o gorau buddugol Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru 2005 yn ymuno fel Côr yr Urdd sef Ysgol Bodringallt, Y Rhondda, Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog. Bydd y tri yn ymuno fel côr unedig dan arweiniad Tim Rhys Evans. Hefyd yn cymryd rhan bydd Lowri Walton, enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2005 ac Elain Llwyd, enillydd Ysgoloriaeth Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru 2005. Bydd y côr a’r bobl ifanc yn aros yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru. Mae’r Gwersyll yn gwynebu adeilad newydd Y Senedd. Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: "Mae'n anrhydedd enfawr i aelodau'r Urdd fod yn rhan o ddathliadau agor Y Senedd. Mae llwyddiant Y Senedd, fel llwyddiant plant a phobl ifanc Cymru, yn hanfodol i ddyfodol ein gwlad. Mae'n wych fod plant a phobl ifanc yn cael y cyfle i berchenogi'r adeilad o'r diwrnod cyntaf un." Mae’r Urdd yn ddiolchgar iawn i gwmni Arriva am ei nawdd. Meddai Graeme Bunker, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Trenau Arriva: “Mae’n bleser gan Gwmni Arriva, un o Brif Gwmnïau Trenau Cymru noddi aelodau Côr yr Urdd ar y daith hanesyddol yma i Gaerdydd. Bydd y criw yn manteisio ar ein gwasanaeth newydd o Gaergybi i Gaerdydd, gwasanaeth sy’n rhedeg bob dwy awr ac sy’n cryfhau cysylltiadau rhwng y de a’r gogledd.” Am fwy o fanylion cysyllter â Manon Wyn, Swyddog Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, Swyddfa’r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, Ceredigion, 01970 613115, manonwyn@urdd.org NODIADAU I OLYGYDDION
|
|
Cadeirydd:
Rhiannon Lewis Prif Weithredwr: Efa Gruffudd
Jones |