EISTEDDFOD URDD GOBAITH CYMRU MÔN 2004

DATGANIAD I’R WASG

Noson Fawr Arall a llawer iawn o Hwyl i’r teulu i gyd!!
Ocsiwn yr Urdd -  Celfyddyd Gain, Rhoddion ac Addewidion lu!
Dros 80 Lot i gyd!

Roedd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, ar ddiwedd 2003, yn awyddus i gynnal un digwyddiad sylweddol, gwahanol ym mis Mawrth 2004 cyn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru fydd yn cael ei chynnal ym Mona rhwng 31ain Mai a 5ed Mehefin 2004, ac aed ati i edrych a fyddai trefnu ocsiwn yn bosibl!

Mae’r paratoadau ar gyfer y noson ddiddorol yma bron wedi eu cwblhau ­ ac mi fydd hi’n noson dda!  Mae pethau’n dod i’w lle yn rhyfeddol, diolch am gydweithrediad a haelioni cymaint o ffrindiau ar hyd a lled Ynys Môn. Diolch i bawb!

Yn barod, cafwyd llawer o addewidion gwahanol a difyr, er enghraifft - Gweithiau Celf gan nifer dda o’n harlunwyr amlycaf.  Sgŵp! Beth am awr o daith  awyr  o gwmpas Ynys  Môn ­ o faes awyr Mona. Cawsom hefyd addewid o rodd gan Robin McBryde a’i ffrindiau yn sgwad rygbi Cymru ac mae yna ddiwrnod i ddau yn ffilmio ar set cyfres “Rownd a Rownd" a chael bod yn ecstras!

Be am daith bysgota i chi  a ffrind, neu fordaith i ddau o gwmpas Ynys Seiriol? Os ydi’n well gennych chi gael ei troed ar dir sych, beth am wers(i) golff? Yn ogystal mae yna docynnau fydd yn prynu blodau hyfryd yn rhoddion, tocyn teulu i’r Pili Palas yn y Borth, ffotograffau wedi eu fframio. Mae yna hefyd swperau i ddeuoedd mewn gwestai, trin gwallt gydag arbenigwyr a hefyd gallwch brynu nifer o docynnau cyngherddau, nwyddau wedi eu llofnodi, nwyddau i’r tŷ, bwydydd, diodydd, ornaments .............. ac mae’r rhestr yn dal i dyfu!

Tybed oes gennych chi, efallai, rywbeth bach a allai werthu’n syfrdanol!  Os mynnwch, gallwch roi pris cadw (reserve) arno fo. Iawn? Pe bai gennych rodd i’w gynnig, ffoniwch Swyddfa’r Eisteddfod yng Nglanllyn (01678) 541013 cyn Mawrth 3ydd gan ddweud eich bod eisiau sôn am "Ocsiwn y Gwanwyn”. Diolch diffuant iawn ymlaen llaw.

Bydd y noson yn cychwyn am 6.00 yr hwyr yng Ngwesty Carreg Brân rhwng y Borth a Llanfairpwllgwyngyll ar Nos Iau, Mawrth 11eg 2004. Mi fydd gennych chi awr i weld be sydd o dan y morthwyl, ac yna am 7.00  mi fydd yr Ocsiwn yn cychwyn, dan drefn a chyda cydweithrediad caredig yr Arwerthwyr proffesiynol, Cwmni Morgan Evans, Llangefni a’r Gaerwen.

Cofiwch wneud nodyn o’r digwyddiad yn eich dyddiadur, ­ soniwch wrth bawb a allai fod â diddordeb a dewch draw am fargen, am gyfle i gael rhywbeth gwerthfawr neu jest i gael hwyl yn codi (yn bidio) yn erbyn eich ffrindiau!  Mae andros o foddhad i’w gael o allu codi arian a chael hwyl wrth wneud hynny!  Gwelwn ein gilydd yng Ngharreg Brân ar 11eg Mawrth 2004!

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Bethan Wyn Jones ar 01248 723510 neu 07713 862792

Bilingual Version

 

 

 

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Môn 2004