Sul Yr Urdd 2001

Mae Sul yr Urdd eleni ar 18 Tachwedd 2001, ac mae'r gwasanaeth, sy'n cyd-fynd â phrosiect arbennig Croeso Calcutta, wedi ei baratoi gyda help Cymorth Cristnogol. Yn y gwasanaeth mae Guto a Gwen yn penderfynu mynd i India ar eu gwyliau, "i ddechrau darganfod y byd mawr tu fas i Gymru" a "gweld sut mae mwyafrif pobl y byd yn byw."

Ar eu taith maen nhw'n dod ar draws y Cathedral Relief Service, a thra'n aros mewn hostel CRS yn Calcutta maen nhw'n dysgu am ei gwaith nhw. Mae'r CRS yn gweithio yn slymiau'r ddinas, y bustees, i geisio rhoi gofal iechyd ac addysg i'r bobl dlotaf a dod o hyd i ffyrdd iddyn nhw ddringo allan o'u tlodi.

Maen nhw'n gweithio gyda phlant a gwragedd yn arbennig, gan mai nhw ydi'r tlotaf o'r tlawd. Mae tua 2000 o blant yn mynd i tua 16 o ysgolion y CRS. Dyma ysgolion gwahanol iawn i'n rhai ni yma yng Nghymru, mae'r plant yn eistedd ar y llawr ac ysgrifennu ar lechen. Mae llawer o'r plant yma yn gweithio hefyd, yn glanhau esgidiau, gwerthu cacennau neu wneud bagiau papur ac mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n dysgu rhifo a darllen yn yr ysgol.

Mae'r CRS yn trefnu mabolgampau rhwng ysgolion hefyd, er mwyn gwneud yn sir bod y plant yn cael rhywfaint o hwyl.

Yn y gwasanaeth daw'n amlwg bod Guto a Gwen wedi cael profiadau bythgofiadwy yn India. Maen nhw'n byrlymu am eu gwyliau wrth eu hathro ar ôl cyrraedd adref:

"Roedd y tlodi a'r slymiau yn ein gwneud ni i deimlo'n ddigalon wrth gwrs, ond roedd cymaint o obaith yno hefyd, yn enwedig wrth weld gwaith ffantastig y CRS," meddai Guto. Ac mae Gwen yn ychwanegu,

"Roedd gweithwyr y CRS mor fywiog, mor weithgar ac yn wir yn rhoi popeth i mewn i'r gwaith, rhoi eu holl fywyd i geisio gwella bywyd pobl dlotaf eu dinas."

Mae Cymorth Cristnogol yng Nghymru yn cefnogi gwaith y CRS trwy roi arian ar ei gyfer, ac mae cyfle i holl aelodau'r Urdd gyfrannu i ymgyrch Croeso Calcutta eleni er mwyn rhoi hwb i waith y CRS a mudiadau tebyg yn India.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am ymgyrch Croeso Calcutta


Nôl